MANYLION
- Oriau: Part time
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Pecyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 14 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: Pecyn
Athro / Athrawes - LlythrenneddSwydd-ddisgrifiad
Amdano'r rôl:
Mae pob Uned Cyfeirio Disgyblion (PRU) yn cynnig darpariaeth addysgol i ddisgyblion 5 - 16 oed sydd wedi'u gwahardd yn barhaol neu mewn perygl o gael eu gwahardd o'u hysgol brif ffrwd yn ogystal â disgyblion eraill y mae gan yr ALl gyfrifoldeb statudol amdanynt megis merched ysgol sy'n feichiog.
Cynnig craidd y PRU yw darparu lleoliadau tymor byr i ddisgyblion hyd at ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 gyda'r nod o ailintegreiddio'n llwyddiannus mewn lleoliad prif ffrwd. Yng Nghyfnod Allweddol 4 y nod yw sicrhau achrediad i gefnogi disgyblion i gam nesaf eu haddysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.
Amdanoch chi:
Ymrwymiad i wella lles pob myfyriwr a'r rhai sy'n gweithio gyda nhw - i wella eu cyfleoedd dysgu a bywyd.
Dealltwriaeth o Anghenion Dysgu Ychwanegol
Beth fyddwch chi'n ei wneud:
Addysgu amrywiaeth o feysydd pwnc o fewn y PRU a'r gwasanaeth Allgymorth. Lle bo'n briodol, cymryd rhan yn natblygiad cynlluniau gwaith, deunyddiau a meysydd llafur yr adran.
Fel hyrwyddwr llythrennedd byddwch yn gyfrifol am gydlynu a datblygu llythrennedd ar draws y cwricwlwm. Datblygu perthynas waith gadarnhaol gyda rhieni/gofalwyr, ysgolion ac asiantaethau / gwasanaethau ategol, o fewn protocolau clir y PRU. Sicrhau bod tystiolaeth o gynllunio priodol ar gyfer myfyrwyr unigol, ac yn ystyried arddulliau dysgu unigol, a symud ymlaen tuag at amcanion a ddynodwyd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â: Jamie Yorath - Pennaeth yr Uned Cyfeirio Disgyblion (De)
[email protected]
Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i'r swydd hon.