MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £30,000.00 - £35,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Arbenigol ADY/AAA CC/2601

Coleg Cambria

Cyflog: £30,620 - £47,331

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Darlithydd Arbenigol ADY/AAA

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser

Cyflog: £29,162 i £45,077 (Pro rata) (Mae pwyntiau ystod cyflog uwch UP2 ac UP3 yn amodol ar dystiolaeth o ddilyniant blaenorol i'r Colofnau Cyflog Uwch.)

Mae ein tîm Cynhwysiant ymroddedig ac arloesol yn parhau i dyfu yng Ngholeg Cambria. Gyda darparu rhagoriaeth yn egwyddor allweddol, rydym yn chwilio am ddarlithydd ADY deinamig ac egnïol i ymuno â'r tîm.

Trosolwg o'r Swydd

Yn rhan o'r gwaith Darlithydd Arbenigol ADY, byddwch yn cael adran o'r coleg lle byddwch hefyd yn cynnal sesiynau addysgu arbenigol wedi'u hamserlennu ar sail 1:1 a grwpiau bach i fynd i'r afael ag anghenion dysgu ychwanegol dysgwyr. Byddwch hefyd yn darparu arweiniad addysgol, cymorth a strategaethau i ddysgwyr a chysylltu â staff prif ffrwd i roi adborth a chyngor am gymorth ADY yn yr ystafell ddosbarth.

Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys sgrinio ar gyfer anawsterau dysgu penodol ac asesu ar gyfer trefniadau mynediad i arholiadau, felly mae'n ddymunol bod gennych y cymhwyster hwn eisoes.

Byddwch yn cyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth ADY ar gyfer tiwtoriaid a chymhorthwyr prif ffrwd, gan godi ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth a'i hyrwyddo. Byddwch hefyd yn brofiadol wrth ddefnyddio technolegau newydd i gynorthwyo strategaethau cynhwysol ac ymwybyddiaeth dda o ddefnyddio systemau gwybodaeth reoli i gynnal cofnodion.

Rydym yn chwilio am unigolion sy'n greadigol, yn arloesol ac yn llawn dychymyg gyda phrofiad yn y maes Anghenion Addysgol Arbennig. Mae'n bwysig bod gennych ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o bwysigrwydd safonau cynhwysol o fewn addysgu. Gyda'r wybodaeth hon byddwch yn gallu datblygu a defnyddio ystod o dechnegau i helpu myfyrwyr i ddod i wybod am eu cryfderau a'u hanghenion datblygu.

Bydd angen i chi fod yn hunan-hyderus, a gallu gweithio'n hyblyg ac yn annibynnol. Bydd angen i chi fod yn aelod cadarn o dîm hefyd, sy'n gallu meithrin perthnasau gwaith effeithiol. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog, ac yn gallu adnabod, dehongli a chymhwyso gwybodaeth benodol i'w chyflwyno.

Gofynion Hanfodol
  • Cymhwyster Lefel 6 o leiaf mewn maes pwnc arbenigol perthnasol
  • O leiaf cymhwyster addysgu Lefel 5 (e.e. Tystysgrif Addysg/TAR) neu fod yn gweithio tuag at gymhwyster addysgu Lefel 5.
  • Cymhwyster Lefel 7 mewn Gwahaniaethau Dysgu Penodol neu gymhwyster tebyg
  • Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Trawma ac Ymlyniad neu'n barod i weithio tuag at hynny
  • Gwybodaeth am y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a deddfwriaeth AAA/ADY Cymru a Lloegr

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'r gwaith a wnawn. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Ni fydd cais sy'n cael ei gyflwyno'r Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynwyd yn Saesneg.

Mae ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch yn gwneud cais amdani ac os ydych yn llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Fel arfer caiff swyddi eu hysbysebu gydag ystod gyflog. Os cynigir rôl i chi yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried i benderfynu ar eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai