MANYLION
  • Lleoliad: Colwyn Bay,
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £30,296 - £33,945 y flwyddyn (G06)
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Mentor Cyflogaeth Cymunedol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: £30,296 - £33,945 y flwyddyn (G06)

Lleoliad gwaith: Coed Pella

Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn chwilio am Fentor Cyflogaeth llawn cymhelliant i ddarparu gwasanaethau ardderchog i gwsmeriaid, gan chwarae rhan bwysig wrth ddarparu'r sgiliau, y cyfarpar a'r arferion sydd arnynt eu hangen i weithio neu fynd yn ôl i weithio.

Mae Cyngor Conwy yn cynnig trefniadau gweithio hybrid a hyblyg, ac oriau gwaith sy'n darparu cydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith, pa un ai ydych chi'n dewis dod i'r swyddfa newydd yng Nghoed Pella neu weithio gartref. Mae ein Mentoriaid Cyflogaeth yn rheoli llwyth achos o gyfranogwyr ac yn gweithio gyda nhw i'w helpu nhw i gael gwaith sefydlog.

Byddwch yn gyfrifol am:

• Nodi nodau, dyheadau a rhwystrau cyfranogwyr i waith - gan hwyluso datrysiadau tymor byr a hirdymor ac ymyraethau yn ôl yr angen
• Monitro cynnydd cyfranogwyr i gyflogaeth sefydlog, a datblygu eu sgiliau chwilio am waith, strategaeth, grym a hyder
• Nodi cysylltiadau mewnol ac allanol priodol i adeiladu, datblygu a chynnal perthnasoedd fel ffynonellau atgyfeirio ar gyfer cyfranogwyr
• Sefydlu a rheoli perthnasoedd gyda chyflogwyr, gan gysylltu'n ôl efo cyfranogwyr a chyflogwyr i gynnal cyfweliadau a sicrhau proses bontio esmwyth i gyflogaeth a'r dyfodol
Cofnodi ac adolygu holl fanylion y cyfranogwyr yn gywir ac yn amserol, a'r ymyraethau hefyd.

Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:

Sarah Jones, Rheolwr Cyflogaeth

(01492 575126 / M: 07751 729278 Sarah.jones6@conwy.gov.uk)

Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.

Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.

This form is also available in English.