MANYLION
  • Lleoliad: Llangefni,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £20.58 - £31.82 yr awr, sy'n cynnwys hawl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Darlithydd mewn Datblygiad Plant ac Addysg

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £20.58 - £31.82 yr awr, sy'n cynnwys hawl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Rydym yn awyddus i benodi darlithydd ym maes Datblygiad ac Addysg Plant. Byddwch yn addysgu ar draws ystod o lefelau, o Lefel 1 (Cyflwyniad i Iechyd a Gofal) hyd at Lefel 3 (cyfwerth â Safon Uwch/Safon Uwch H&SC) ac o bosibl hyd at Lefel 5 (lefel AU) ar ein Gradd Sylfaen (FdA) Astudiaethau Plentyndod.

Croesewir ceisiadau gan unigolion sydd â phrofiad diweddar yn y sector - ee gweithio o fewn addysg gynradd, lleoliadau Blynyddoedd Cynnar, neu brofiad perthnasol arall yn y diwydiant. Mae bod â hanes o addysgu'n llwyddiannus neu o gefnogi plant ifanc i gyflawni eu potensial yn hanfodol. Ynghyd â hyn byddwch yn dangos ymroddiad a brwdfrydedd dros addysg y Blynyddoedd Cynnar gan sicrhau fod y sesiynau yn canolbwyntio ar sgiliau, yn ogystal â bod yn drylwyr yn academaidd. Efallai bod gennych ddealltwriaeth gref o egwyddorion datblygiad/seicoleg plentyn, neu ddisgyblaeth arall sydd â chysylltiad agos, sy'n eich galluogi i ddangos dealltwriaeth gadarn o ddeddfwriaethau a pholisïau cyfredol yn y sector Blynyddoedd Cynnar / Addysg a Datblygiad Plant.

Bydd y swydd yn caniatáu i chi ddatblygu fel darlithydd mewn Datblygiad ac Addysg Plant (o enedigaeth i 7 oed) o dan arweiniad a chefnogaeth tîm o Arweinwyr Rhaglen, Cydlynwyr a Mentor sy'n arwain y ddarpariaeth o fewn yr adran. Byddai eich dyletswyddau'n cynnwys paratoi a chyflwyno darlithoedd diddorol ar gyfer ein dysgwyr ynghyd â'r gwaith gweinyddu, asesu a sicrhau ansawdd sy'n gysylltiedig â hynny. Anogwn y defnydd o ddulliau dysgu ac addysgu ymarferol a gweithredol er mwyn gwneud y dysgu'n ddiddorol. Cewch gyfle i gymhwyso eich gwybodaeth ac enghreifftiau o'ch profiadau i'r dysgu a'r addysgu. Bydd hyn yn sicrhau bod dysgwyr yn ennill dealltwriaeth a gwerthfawrogiad trylwyr o'r dyletswyddau, yr heriau a'r buddion sy'n gysylltiedig â dilyn gyrfa ym maes Datblygiad ac Addysg Plant / Blynyddoedd Cynnar.

Byddai gan ein hymgeisydd delfrydol brofiad blaenorol o addysgu a gweithio yn y maes, fodd bynnag, rydym hefyd yn croesawu arbenigwyr yn y sector sy'n awyddus i fentro i'r maes addysgu. Byddem yn fodlon ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr a hoffai rannu swydd (ee 1 diwrnod / wythnos) er mwyn gallu parhau i weithio'n ymarferol ochr yn ochr â'r swydd addysgu.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/263/24

Cyflog
£20.58 - £31.82 yr awr, sy'n cynnwys hawl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Llangefni

Hawl gwyliau
Hawl Gwyliau wedi ei gynnwys yn y raddfa gyflog a nodir

Patrwm gweithio
Hyd at 16 awr yr wythnos Dydd Llun - Dydd Gwener, yn ystod y dydd (yn ystod tymhorau 'r Coleg) Patrwm gwaith i'w gytuno yn ddibynnol ar argaeledd. Maer pwnc a lefel y ddarpariaeth yn seiliedig ar gymwysterau a phrofiad

Bydd canran ychwanegol o rhwng 10% - 63.33% (yn amodol ar feini prawf) yn cael ei gymhwyso i'r oriau cytundebol a weithiwyd i adlewyrchu paratoi a marcio.

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr

Dyddiad cau
27 Meh 2024
12:00 YH(Ganol dydd)