MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £15,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwy-ydd Addysgu lefel 4

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd Gymunedol Gwenfro

Queensway

Wrecsam

01978 340380

Pennaeth: Mrs. K. Owen-Jones

CYMHORTHYDD ADDYSGU LEFEL 4 - Cefnogaeth a Chyflwyno

Graddfa L06 £17,579 - £18,499

28.75 awr yr wythnos,

YN YSTOD Y TYMOR A DIWRNODAU HYFFORDDIANT - 39 wythnos y ffwyddyn

Dechrau ym Medi 2024 - dros dro tan 31 Awst 2025

Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi Cymhorthydd Addysgu Lefel 4 yn ein Darpariaeth Adnoddau CA2 i gefnogi mynediad at ddysgu i ddisgyblion sydd ag ADY ac i gefnogi gwaith proffesiynol athrawon trwy gymryd cyfrifoldeb am weithgareddau dysgu a gytunwyd o dan system o oruchwyliaeth gytunedig. Gall hyn gynnwys cynllunio, paratoi a darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer unigolion/grwpiau neu yn y tymor byr ar gyfer dosbarth cyfan a monitro disgyblion ac asesu, cofnodi ac adrodd am gyrhaeddiad, cynnydd a datblygiad disgyblion.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed. Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael gwahoddiad i ddod i'r ysgol i weithio gyda grŵp bach o ddisgyblion.

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â'r Pennaeth ar y rhif ffôn uchod.

Mae angen cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

DYDDIAD CAU: Hanner dydd, dydd Llun, 4 Gorffennaf 2024

CYFWELIADAU: 11 Gorffennaf 2024 (3.00pm ymlaen)