MANYLION.
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: Hourly rate: £13.47 | Grade 3
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gweithiwr Chwarae a Llesiant yn Ystod Gwyliau Ysgol

Torfaen Local Authority

Cyflog: Hourly rate: £13.47 | Grade 3

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

27.5 awr yr wythnos, 5 wythnos y flwyddyn (Gwyliau haf)

sy'n angerddol am weithio gyda phlant a phobl ifanc. Dyma gyfle gwych i fod yn rhan o dîm cefnogol sy'n darparu gweithgareddau chwarae difyr, diddorol, a chynhwysol yn ystod gwyliau ysgol.

Fel aelod o'n tîm, byddwch yn helpu i ddarparu ystod o raglenni cyffrous sydd wedi'u cynllunio i hyrwyddo lles cadarnhaol trwy gyfrwng chwarae, gan gynnwys Gwersylloedd Chwarae a Lles, Gwersylloedd Bwyd a Hwyl, a chynlluniau chwarae cymunedol. Mae'r mentrau hyn yn creu amgylcheddau diogel a chroesawgar lle gall plant ffynnu, gwneud ffrindiau, a mwynhau profiadau newydd. font-size:12pt">Rydym yn chwilio am bobl sy'n dod ag egni, natur greadigol ac ymrwymiad go iawn i gefnogi plant. Yn ddelfrydol, bydd gennych rywfaint o brofiad blaenorol mewn Gwaith Chwarae neu weithio gyda phlant a phobl ifanc, ond darperir hyfforddiant ac arweiniad llawn i'ch helpu i lwyddo yn y rôl.

Bydd rhaglen yr haf yn rhedeg am bedair wythnos, gan ddechrau ddydd Llun 27 Gorffennaf. I baratoi, bydd wythnos hyfforddi yn dechrau ddydd Llun 20 Gorffennaf, lle byddwch yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth lawn i'ch arfogi â'r sgiliau a'r hyder sydd eu hangen i arwain yn llwyddiannus. font-size:12pt">Am sgwrs anffurfiol ynglŷn âr swydd wag hon, cysylltwch â Julian Davenne - Julian.davenne@torfaen.gov.uk 01495 742952.

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.

Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydyn ni wedi cofrestru fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch âr rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.