MANYLION
- Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £24,049 - £44,011 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 01 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: £24,049 - £44,011 / blwyddyn
Darlithydd Peirianneg Drydanol & ElectronigApplication Deadline: 1 July 2024
Department: Peirianneg
Employment Type: Llawn Amser
Location: Campws Graig
Reporting To: Pennaeth Peirianneg a Chyfrifiadureg
Compensation: £24,049 - £44,011 / blwyddyn
DescriptionMae Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i benodi'r staff gorau posibl sy'n cyflawni rhagoriaeth yn eu gwaith. Gan weithio i'r gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n tanategu cynllun strategol a busnes y sefydliad, mae'r Coleg yn ceisio staff sy'n arddangos creadigrwydd ac arloesedd, tra'n gyrru eu perfformiad eu hunain, a pherfformiad eraill, i ddarparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau posibl i ddysgwyr.
Mae Maes Cwricwlwm y ddarpariaeth Peirianneg yn rhan o Faes Cwricwlwm y Diwydiannau Creadigol, Chwaraeon, Technoleg a Pheirianneg ac mae'n eistedd o fewn Cyfarwyddiaeth Llanelli a weithredir o Gampws y Graig. Mae pob dysgwyr yn dilyn llwybrau Sgiliau Llythrennedd neu Rifedd ochr yn ochr â'u prif gymhwyster ynghyd â rhaglen diwtorial fugeiliol gref.
Rydyn ni'n chwilio am Ddarlithydd dynamig a phrofiadol mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig gydag arbenigedd mewn cyd-destunau Addysg Uwch (AU) ac Addysg Bellach (AB). Mae'r swydd unigryw hon yn cynnig cyfle i ymgysylltu ag ystod amrywiol o ddysgwyr, o fyfyrwyr AB a phrentisiaid i fyfyrwyr AU sy'n dilyn cymwysterau lefel gradd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rôl hanfodol wrth siapio dyfodol peirianwyr uchelgeisiol, meithrin brwdfrydedd am y maes, a darparu'r sgiliau a'r wybodaeth iddynt ffynnu yn y diwydiant.
Cyfrifoldebau Allweddol Addysgu a Dysgu
- Cynllunio, datblygu a chyflwyno darlithoedd diddorol, tiwtorialau a sesiynau ymarferol wedi'u teilwra i gynulleidfaoedd AU ac AB hefyd mewn peirianneg drydanol ac electronig. Gallai testunau gynnwys: egwyddorion trydanol/electronig, electroneg ddigidol, technegau cyfathrebu analog a digidol, cyflyru signalau, cynllunio electronig a Rheolyddion Rhesymeg Rhaglenadwy (PLCs);
- Paratoi a rhoi ar waith deunyddiau cwricwlwm sy'n ateb anghenion dysgwyr ar wahanol lefelau addysgol, gan gynnwys mentrau Llywodraeth Cymru (ADCDF, Ethos Cymreig, Cyflogadwyedd), a sicrhau cam pontio didrafferth rhwng AB ac AU;
- Asesu a gwerthuso cynnydd myfyrwyr trwy amrywiol ddulliau, darparu adborth adeiladol a gosod targedau sy'n alinio gyda gofynion AB ac AU hefyd;
- Meithrin amgylchedd dysgu cadarnhaol a chynhwysol sy'n annog cyfranogiad myfyrwyr, meddwl yn feirniadol, a llwyddiant academaidd ar draws pob lefel;
- Croesawu technolegau digidol a strategaethau dysgu arloesol i wella'r profiad dysgu yng nghyd-destunau AB ac AU hefyd.
- Cymryd rhan weithredol wrth ddatblygu ac adolygu deunyddiau cwricwlwm, gan sicrhau aliniad â safonau diwydiant, y datblygiadau diweddaraf yn y maes, a gofynion penodol cymwysterau AB ac AU hefyd;
- Cyfrannu at gynllunio a gwella rhaglenni prentisiaeth, gan sicrhau eu bod yn bodloni gofynion diwydiant ac yn darparu llwybr i addysg uwch;
- Cadw ar y blaen i ddatblygiadau cwricwlwm, gwybodaeth bwnc, a datblygiadau diweddaraf o ran addysgu er mwyn cynnal safon uchel o addysg ar lefel AB ac AU yn ogystal.
- Ymgymryd â gweithgareddau datblygiad proffesiynol ac ysgolheigaidd cysylltiedig â maes eich arbenigedd, gan wella eich gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf mewn peirianneg drydanol ac electronig;
- Cynnal/datblygu cysylltiadau â diwydiant a darparwyr AU eraill gyda chefnogaeth “Llwybr Diwydiant” y coleg;
- Mentora a goruchwylio myfyrwyr AU mewn gwersi, gweithgareddau ymarferol a phrosiectau ymchwil. Cefnogi Dysgwyr (AB ac AU) Darparu cymorth academaidd ac arweiniad i ddysgwyr ar bob lefel, a gweithredu fel tiwtor cwrs neu diwtor personol yn ôl y gofyn;
- Cynnig cymorth ychwanegol drwy sesiynau adolygu, cymorth astudio a mentora i helpu dysgwyr gyflawni eu potensial llawn;
- Hyrwyddo ymddygiad positif dysgwyr a rheoli ymddygiad yn unol â pholisïau'r coleg;
- Cefnogi gwaith trefnu a monitro lleoliadau gwaith myfyrwyr
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
- Gradd anrhydedd mewn Peirianneg Drydanol / Electronig, neu faes sy'n perthyn yn agos
- TGAU Saesneg a Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- Tystiolaeth ddogfennol o Ddatblygiad Proffesiynol priodol
- Profiad diwydiannol mewn sector peirianegol perthnasol
- Sgiliau llythrennedd a rhifedd da a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Dealltwriaeth gadarn o lythrennedd digidol
- Cyfathrebwr ardderchog â diplomyddiaeth a thact
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda myfyrwyr a chydweithwyr
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Cymhwyster addysgu (Os nad ydych yn meddu ar gymhwyster addysgu ar ddyddiad dechrau'r swydd, bydd hi'n ofynnol i chi ennill TAR o fewn 2 flynedd i'r dyddiad hwn)
- Cymhwyster addysgu cydnabyddedig (e.e., TAR, Tystysgrif mewn Addysg)
- Profiad addysgu perthnasol
- Dealltwriaeth dda o faterion perthnasol mewn addysg ôl 16
- Hanes profedig o lefelau uchel o gyrhaeddiad myfyrwyr
- Ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol
- Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
- Tystiolaeth o olrhain a monitro yn effeithiol
- Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol pobl ifanc
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.
Buddion
- Byddwch yn cael 46 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 59 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein