MANYLION
                  
                              - Lleoliad: Llangefni,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £30,619.64 - £47,330.98 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: £30,619.64 - £47,330.98 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Mae Adran Adeiladwaith yn Coleg Menai yn adran flaengar sy'n cynnig cyrsiau mewn ystod o ddisgyblaethau. Mae addysgu a dysgu yn digwydd gyda mynediad at offer safonol y diwydiant ac mewn cyfleusterau modern.Rôl darlithydd mewn Plastro yw trefnu a chyflwyno sesiynau theori yn yr ystafell ddosbarth mewn Plastro i lefel 3 a phynciau ychwanegol cysylltiedig. Mae'r rôl hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus addysgu ymarferol mewn lleoliad gweithdy o bryd i'w gilydd a chynnal asesiad o waith dysgwyr, gallai hyn olygu mynd allan i'r gweithle i gynnal asesiad. Bydd darlithwyr hefyd yn cysylltu â'r Sefydliad Dyfarnu (City & Guilds) ac yn sicrhau bod ansawdd gwaith dysgwyr yn cael ei gynnal drwy weithgareddau sicrhau ansawdd mewnol.
Mae'r rôl hefyd yn cynnwys arweinyddiaeth o fewn y tîm, fel bod aseswyr a hyfforddwyr yn gweithio ar yr un pynciau yn y gweithdy ag sy'n cael eu haddysgu mewn sesiynau theori.
Yn ogystal â hyn, bydd angen cynnal sesiynau tiwtorial rheolaidd i sicrhau bod pob dysgwr ar y trywydd iawn ac i gyfoethogi eu hamser yn y coleg. Bydd darparu cyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan yng nghystadlaethau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ac World Skills hefyd yn rhan o'r rôl.
Disgwyliadau allweddol y rôl:
1. Addysgu i safon uchel er mwyn creu cyfleoedd dysgu effeithiol ac er mwyn galluogi'r holl ddysgwyr i gyflawni hyd eithaf eu gallu.
2. Darparu profiadau allgyrsiol rhagorol i'n dysgwyr.
3. Cynnal safonau uchel y ddarpariaeth â'r gefnogaeth a roddir i'r dysgwyr.
4. Sichrau bod polisiau a gweithdrefnau'r Grŵp yn cael ei dilyn.
5. Cefnogi dysgwyr i lwyddo er mwyn cyflawni eu targedau neu uwch gan herio ac ymestyn ein dysgwyr.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/262/24
Cyflog
£30,619.64 - £47,330.98 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Llangefni
Hawl gwyliau
46 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â Gwyliau Banc a diwrnodau Effeithlonrwydd/Cau (hyd at 5 diwrnod)
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos
835 awr o amser addysgu blynyddol - 24 i 26 awr yr wythnos.
Hyd at 5 awr yr wythnos o weithio oddi ar safle gyda chytundeb y rheolwr.
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon
Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol
Dyddiad cau
25 Meh 2024
12:00 YH(Ganol dydd)
