MANYLION
  • Lleoliad: Llangefni,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £20.58 - £31.82 yr awr yn cynnwys tâl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £20.58 - £31.82 yr awr yn cynnwys tâl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Rydym yn awyddus i benodi darlithydd ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol a fydd yn addysgu o Lefel 1 (Cyflwyniad i Iechyd a Gofal) i Lefel 3 (cyfwerth â Safon Uwch/cwrs Safon Uwch Iechyd a Gofal Cymdeithasol) a Lefel 5 (cyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Addysg Uwch). Croesewir ceisiadau gan unigolion sydd â phrofiad diweddar o weithio ym maes nyrsio / gofal iechyd / gwaith cymdeithasol / gofal cymdeithasol neu unrhyw ddisgyblaeth gyffelyb a fyddai'n gofyn am ddealltwriaeth gadarn o ddeddfwriaeth a pholisïau yn y sector Gofal Iechyd. Neu, gallech fod â dealltwriaeth gref o'r egwyddorion cymdeithasegol/seicolegol sy'n greiddiol i'r ddeddfwriaeth, y polisïau a'r arferion.

Bydd y swydd yn rhoi cyfle i chi ddatblygu fel darlithydd ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol o dan arweiniad a chyda chefnogaeth yr Arweinwyr Rhaglen, y Cydlynwyr a'r Mentoriaid sy'n arwain y ddarpariaeth yn yr adran. Byddai eich dyletswyddau'n cynnwys paratoi a chyflwyno darlithoedd diddorol ar gyfer ein dysgwyr ynghyd â'r gwaith gweinyddu, asesu a sicrhau ansawdd sy'n gysylltiedig â hynny. Anogwn y defnydd o ddulliau dysgu ac addysgu ymarferol a gweithredol er mwyn gwneud y dysgu'n ddiddorol. Cewch gyfle i gymhwyso eich gwybodaeth ac enghreifftiau o'ch profiadau i'r dysgu ac addysgu. Bydd hyn yn sicrhau bod dysgwyr yn ennill dealltwriaeth a gwerthfawrogiad trylwyr o'r dyletswyddau, yr heriau a'r buddion sy'n gysylltiedig â dilyn gyrfa ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Byddai gan ein hymgeisydd delfrydol brofiad blaenorol o addysgu a diwydiant, yn y sector Iechyd, Cymdeithasol neu Ofal. Fodd bynnag, rydym hefyd yn croesawu arbenigwyr yn y sector sy'n bwriadu cymryd eu camau cyntaf i addysgu. Byddem yn fodlon ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr a hoffai rannu swydd er mwyn gallu parhau i weithio'n ymarferol.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/260/24

Cyflog
£20.58 - £31.82 yr awr yn cynnwys tâl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Llangefni

Hawl gwyliau
Hawl Gwyliau wedi ei cynnwys yn y raddfa gyflog a nodir

Patrwm gweithio
Hyd at 16 awr yr wythnos Dydd Llun - Dydd Gwener, yn ystod y dydd. Patrwm gwaith i'w gytuno yn ddibynnol ar argaeledd. Maer pwnc a lefel y ddarpariaeth yn seiliedig ar gymwysterau a phrofiad

Bydd canran ychwanegol o rhwng 10% - 63.33% (yn amodol ar feini prawf) yn cael ei gymhwyso i'r oriau cytundebol a weithiwyd i adlewyrchu paratoi a marcio.

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr

Dyddiad cau
25 Meh 2024
12:00 YH(Ganol dydd)