MANYLION
  • Lleoliad: Pencoed,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: Cyflog: £23.50 yr awr
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Dog Grooming - Casual Engage Trainer

Coleg Penybont

Cyflog: Cyflog: £23.50 yr awr

Dog Grooming - Casual Engage Trainer

Disgrifiad o'r swydd Hyfforddwr Masnachol Engage - Trin Cwn
Cyflog: £23.50 yr awr

Mae cyfle gwych wedi codi ar gyfer tiwtor brwdfrydig i ddysgu'r cwrs City & Guilds Lefel 2 mewn Trin Cwn.

Gofynnwn i'r tiwtor feddu ar gymhwyster City & Guilds Lefel 3 (neu uwch) mewn Trin Cŵn. Yn ddelfrydol, bydd ymgeiswyr wedi cael hyfforddiant asesu ffurfiol - TAQA a/neu (A1, D32/33 neu hyfforddiant arall sy'n dangos cymhwysedd mewn asesu).

Gallai'r dyletswyddau gynnwys:
  • Cynllunio asesiadau
  • Dulliau asesu
  • Adborth
  • Cofnodi tystiolaeth
Mae profiad ymarferol yn ddymunol. Mae mynediad i gwn ar gyfer sesiynau ymarferol yn fanteisiol.

Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen isod:

Pecyn Gwybodaeth Swydd

Mae'r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig boddhaol.

Rhoddir yr un ystyriaeth i geisiadau a gyflwynir yn Gymraeg â cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg. Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gallu dangos sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a yw’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.