MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Pecyn
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes (Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Pecyn

Athro/Athrawes (Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt)
Swydd-ddisgrifiad
Bydd angen yr athro/athrawes ar gyfer 1 Medi 2024 (cyfnod penodol tan 13/12/24 gyda'r posibilrwydd o gyfnod hirach)

Amdanom ni
Mae Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt yn ysgol gynradd dwy ffrwd i blant 4-11 oed. Mae rhai o'n plant yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf a rhai drwy'r Saesneg yn bennaf. Er ein bod yn ysgol ddwy ffrwd , rydym yn sicr yn un ysgol ac yn falch bod ein plant i gyd yn cael eu hannog i uniaethu fel dinasyddion Cymru a'r byd ehangach. Yn adeilad yr ysgol, mae gennym wyth ystafell ddosbarth , pedair ym mhob ffrwd ac rydym yn cynnal Dosbarth Cymorth Dysgu Ardal ar ran yr Awdurdod Lleol. Mae gennym hefyd grŵp cyn-ysgol cyfrwng Cymraeg, Cylch yn yr Ysgol, grŵp Ti a Fi dwyieithog ar gyfer rhieni a phlant bach a Chlwb Ar ol Ysgol a Gwyliau Busy Bees.

Am y Cyfle

Rydym yn chwilio am athro/athrawes ar gyfer ein dosbarth Bl5/6 yn ein ffrwd Saesneg o 1 Medi ar gyfer y cyfnod sy'n weddill o absenoldeb mamolaeth. Rydym yn chwilio am unigolyn ymroddedig:
  • sy'n athro/athrawes galluog a medrus sy'n gyfarwydd â'r Cwricwlwm i Gymru
  • sy'n llawn cymhelliant ac yn gallu ffurfio perthynas ardderchog â phlant.
  • yn garedig, yn ofalgar ac yn sympathetig i anghenion unigol plant.
  • yn meddu ar ddisgwyliadau uchel o ran dysgu ac ymddygiad.
  • yn gweithio'n dda fel rhan o dîm ac yn barod i gyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol.
Yn gyfnewid gallwn gynnig i chi:
  • y cyfle i ddod yn aelod gwerthfawr o dîm ein hysgol.
  • cymorth uwch arweinwyr ysgol, staff addysgu a llywodraethwyr.
  • disgyblion cyfeillgar a brwdfrydig.
  • amgylchedd dysgu gydag adnoddau da.
  • partneriaeth gref gyda rhieni a rhanddeiliaid eraill.
  • hyfforddiant penodol ar gyfer y swydd yn ogystal â chyfleoedd rheolaidd ar gyfer dysgu a datblygiad proffesiynol.
Beth fydd ei angen arnoch

Byddwch wedi cwblhau o leiaf blwyddyn o addysgu cynradd, ar ôl ennill eich SAC.

Sut i ymgeisio :

Mae croeso i ymgeiswyr sydd â diddordeb gysylltu â'r Pennaeth, Mr Gareth Cornelius am ragor o fanylion am y swydd. E-bost: office@builth.powys.sch.uk .

I gael ffurflen gais a manyleb y swydd anfonwch e-bost at recruitment@powys.gov.uk neu ymgeisiwch ar -lein yn www.powys.gov.uk

Os na fyddwch yn cwblhau'r cais ar-lein, dylid dychwelyd ceisiadau at : Y Pennaeth, Ysgol Gynradd Llanfair -ym-Muallt , Ffordd yr Ysbyty, Llanfair -ym-Muallt , LD2 3GA neu drwy e-bost at office@builth.powys.sch.uk .