MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: Hourly rate: £13.69 - £14.35 | Grade 4
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Goruchwyliwr Safle - Chwarae a Lles Yn Ystod Gwyliau’r Haf
Torfaen Local Authority
Cyflog: Hourly rate: £13.69 - £14.35 | Grade 4
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .27.5 awr yr wythnos, 5 wythnos y flwyddyn (Gwyliau haf)
a brwdfrydig i gamu i rôl Goruchwyliwr Safle yn ystod ein rhaglenni gwyliau'r haf. Dyma gyfle gwych i gamu i mewn i swydd arweinydd, i oruchwylio'r gwaith o ddarparu gweithgareddau chwarae a lles a sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael profiadau diogel, cynhwysol a phleserus.
Fel y gweithiwr arweiniol ar y safle, byddwch yn gyfrifol am reoli tîm o staff cyflogedig a gwirfoddolwyr ifanc o'r Prosiect Gwirfoddolwyr Ieuenctid. Bydd eich rôl yn cynnwys cydlynu gweithgareddau dyddiol, cefnogi'ch tîm, a sicrhau bod sesiynau'n rhedeg yn esmwyth ac yn effeithiol. Mae sgiliau trefnu cadarn, cyfathrebu clir, a'r gallu i ysbrydoli ac arwain eraill yn hanfodol.
Bydd rhaglen yr haf yn rhedeg am bedair wythnos, gan ddechrau ddydd Llun 27 Gorffennaf. I baratoi, bydd wythnos hyfforddi yn dechrau ddydd Llun 20 Gorffennaf, lle byddwch yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth lawn i'ch arfogi â'r sgiliau a'r hyder sydd eu hangen i arwain yn llwyddiannus.
Am sgwrs anffurfiol ynglŷn âr swydd wag hon, cysylltwch â Julian Davenne - Julian.davenne@torfaen.gov.uk 01495 742952
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.
Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydyn ni wedi cofrestru fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch âr rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.