MANYLION
  • Lleoliad: Schools,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa G01 NJC pwynt 2-3 £12,670 - £12,881 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Addysgu Lefel 1 - Ysgol Babanod Y Foryd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa G01 NJC pwynt 2-3 £12,670 - £12,881 y flwyddyn

YSGOL BABANOD Y FORYD

Morfa Avenue, Bae Cinmel, Conwy LL18 5LE

Ffôn/Ffacs: 01745 351892

ebost: pennaeth@yforyd.conwy.sch.uk

Gwefan: www.yforyd.co.uk

Pennaeth: Mrs Nicola Rowlands

Yn eisiau erbyn mis Medi 2024

CYMHORTHYDD ADDYSGU LEFEL 1

(Parhaol)

Cyflog: Graddfa G01 NJC pwynt 2-3 £12,670 - £12,881 y flwyddyn

Oriau: 25 awr yr wythnos yn ystod tymor yn unig

Mae Corff Llywodraethol Ysgol y Foryd yn falch o rannu cyfle i gymhorthydd dysgu Lefel 1 Anghenion Dysgu Ychwanegol ymuno â'n tîm rhagorol. Mae'r gallu i weithio gyda phlant sydd â dysgu ychwanegol yn bwysig, a rhaid iddynt allu cefnogi disgyblion i gyrraedd eu potensial, yn emosiynol ac yn academaidd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ag ysgol hapus, gadarnhaol a hynod lwyddiannus sy'n elwa o gael tîm proffesiynol ac ymroddedig iawn o athrawon a staff cymorth.

Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae'n ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.

Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd, cysylltwch â Mrs Nicola Rowlands ar 01745 351892.

I wneud cais am y swydd hon, ewch i www.conwy.gov.uk/swyddi i lenwi cais ar lein.

Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio.

Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, rhaid i'r ymgeiswyr tybio nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y rhestr fer ac felly ni fyddent yn cael eu hysbysu mewn ysgrifen.

Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English