MANYLION
  • Lleoliad: Colwyn Bay,
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £34,834 - £37,336 pro rata y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cwnselydd Ysgol TRAC (Cyfnod Mamolaeth)

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: £34,834 - £37,336 pro rata y flwyddyn

Lleoliad gwaith: Coed Pella

Cyflawni swyddogaethau cyffredinol fel cwnselydd yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc o dan gyfarwyddyd uniongyrchol y Gwasanaeth Addysg.

Caiff pobl ifanc eu hatgyfeirio a'u nodi'n gymwys trwy gyfarfodydd panel yr ysgol.

Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Tracey Owen, Ymarferydd Ieuenctid Ardal (01492 577117 / tracey.owen@conwy.gov.uk)

Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.

Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.

This form is also available in English.