MANYLION
  • Lleoliad: Plascrug Primary School, Aberystwyth,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: 55,776 - 61,547 *
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Dirprwy Bennaeth - Ysgol Gynradd Plascrug

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 55,776 - 61,547 *

Ynglŷn â'r rôl
Yn eisiau o fis Ionawr 2025.

Yn sgil penodiad diweddar ein Dirprwy Bennaeth fel Pennaeth newydd yr Ysgol, mae llywodraethwyr Plascrug yn awyddus i benodi Dirprwy Bennaeth ymroddedig ac ysbrydoledig a fydd yn darparu cefnogaeth a chymorth i'r Pennaeth newydd ac yn cynorthwyo i reoli'r Ysgol yn effeithiol ac yn effeithlon.

Mae Plascrug yn ysgol gynradd ddwyieithog fawr, hynod lwyddiannus, gyda nifer arwyddocaol o ddisgyblion ar y gofrestr a'r Saesneg yn Iaith Ychwanegol iddynt. Adroddodd Estyn yn ei harolwg diwethaf:

"Mae Ysgol Plascrug yn gymuned hapus, ofalgar ac amrywiol lle caiff pob un o'r disgyblion eu gwerthfawrogi'n gyfartal ac mae bron pob un ohonynt yn gwneud cynnydd rhagorol. Mae disgyblion yn dangos sensitifrwydd a pharch rhagorol tuag at eu cyfoedion ac yn disgrifio eu hysgol fel lle cyffrous a chroesawgar ag iddi ymdeimlad hapus a theuluol."

Pwysleisiodd Estyn hefyd y "Ceir perthynas weithio eithriadol o effeithiol rhwng staff a disgyblion, sy'n seiliedig ar ddisgwyliadau uchel, her a chefnogaeth." gan adrodd bod arweinwyr yr ysgol yn,"darparu arweinyddiaeth strategol hynod effeithiol sy'n seiliedig ar ffocws cryf a chyson ar gynnal safonau uchel o gyrhaeddiad a lles. Mae pob un aelod o'r staff yn rhannu'r weledigaeth glir hon ar gyfer gwelliant parhaus."

Rydym yn awyddus i sicrhau bod yr ysgol yn parhau i ffynnu ac yn manteisio ar gyfleoedd y dyfodol. Rydym am benodi unigolyn profiadol sy'n meddu ar nodweddion arweinyddiaeth a rheolaeth rhagorol ac a fydd yn:
  • hyrwyddo safonau cyflawniad uchel i bawb
  • dylanwadu ar gydweithwyr trwy osod esiampl fel model rol trefnus a chydwybodol
  • ymgynghori a chynnig cyngor adeiladol i'r Pennaeth mewn meysydd a fyddai'n fanteisiol i'r ysgol
  • cysylltu â staff, disgyblion a rhieni i annog ethos gwaith effeithiol
  • gymwys i ddirprwyo ar ran y Pennaeth mewn sefyllfaoedd sy'n codi oherwydd absenoldebau tymor byr a thymor hir
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y nodweddion canlynol:
  • gweledigaeth a rennir ar gyfer datblygu'r ysgol hon sydd wedi ei hen sefydlu ac sy'n rhoi lle canolog i'r gymuned
  • dealltwriaeth o arferion dysgu effeithiol ac ymrwymiad cryf i barhau i'w datblygu drwy'r ysgol gyfan
  • medrau cadarn o ran cyfathrebu, ymwneud ag eraill, rheoli a threfnu
  • gwybodaeth gadarn am ddatblygiadau ac arferion addysgol cyfredol
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ac i adeiladu tim
  • ymrwymiad cryf i gyfoethogi'r cysylltiadau gyda'r Llywodraethwyr, y gymuned leol, ysgolion lleol a'r Urdd
Prif gyfrifoldebau'r swydd hon yw:
  • rheoli datbylgiad proffesiynol parhaus y staff
  • darparu cymorth gyda gweithdrefnau ariannol yr ysgol
  • rheoli gweithdrefnau monitro
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Prospectws yr ysgol

Mae croeso cynnes i chi ymweld â'r ysgol. Gofynnir i chi wneud trefniadau drwy gysylltu a'r ysgol ar y rhif ffon canlynol 01970 612286.

Rhestr fer: 1af-5ed o Orffennaf 2024

Arsylwadau gwersi: 8fed-12fed o Orffennaf 2024

Cyfweliadau: 15fed-19eg o Orffennaf 2024

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch.Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy