MANYLION
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: £25979 x 77.15% p.a. & Lwfans AAA - £1455 pro rata
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Learning Support Assistant (Centrally Funded) Abercynon Community Primary School

Rhondda Cynon Taf

Cyflog: £25979 x 77.15% p.a. & Lwfans AAA - £1455 pro rata

Learning Support Assistant (Centrally Funded) Abercynon Community Primary School

Disgrifiad Swydd

Gwasanaeth Addysg a Chynhwysiant RhCT

Ysgol Gynradd Abercynon

Dosbarth cefnogi dysgu am y cyfnod sylfaen – arsylwi ac asesu

Graddfa Gyflog: Gradd 6 - £25979 x 77.15% p.a & Lwfans AAA - £1455 pro rata

32.5 awr yr wythnos - Tymor yr ysgol yn unig

Rydyn ni'n dymuno cyflogi cynorthwy-ydd cynnal dysgu i ddechrau ym mis Medi 2024 neu cyn gynted ag sy'n bosibl ar gyfer y ddarpariaeth uchod. Bydd y swydd yn cynnwys cynorthwyo'r athro/athrawes dosbarth i weithredu rhaglenni unigol, a bod yn gefn i'r disgyblion yn eu dosbarthiadau nhw ac mewn dosbarthiadau prif ffrwd.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio'n rhan o garfan a dangos parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant arbenigol addas mewn perthynas ag anghenion addysgol ychwanegol.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Karen Pearson, Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant, Addysg a Dysgu Gydol Oes ar 07392193967.

Y dyddiad olaf ar gyfer ceisiadau yw: 21 Mehefin 2024 am 12 Canol dydd.

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R HOLL STAFF A BENODIR GAN Y CYNGOR.

YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.