MANYLION
  • Lleoliad: Carmarthenshire,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: £23,150 Gan gynnwys Ychwanegiad Cyflog Byw Go Iawn
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Hyfforddai Academi Gofal

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyflog: £23,150 Gan gynnwys Ychwanegiad Cyflog Byw Go Iawn

Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 301

Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin

Adain: Ledled y wlad

Nifer y swyddi gwag: 5

Math o gontract: Parhaol Amser Llawn

Lleoliad: Sir Gaerfyrddin

Gradd: Gradd B

Cyflog: £23,150 Gan gynnwys Ychwanegiad Cyflog Byw Go Iawn

Cyfradd yr awr: £12.00 Gan gynnwys Ychwanegiad Cyflog Byw Go Iawn

Oriau Contract: 37 awr yr wythnos

Dewch i ymuno â'n tîm

Ydych chi'n 18 oed neu'n hŷn ac yn hoffi helpu a gofalu am bobl? Ydych chi am ddatblygu gyrfa ym maes Gofal Cymdeithasol? Os felly, gallai'r Academi Gofal fod yn ddelfrydol i chi.

Ydych chi'n berson...

...gofalgar, tosturiol, empathig ac yn wrandäwr da? Ydych chi'n dda am ddatrys problemau, yn onest, yn ddibynadwy, yn berson y gellir ymddiried ynddo, ac yn gwybod pryd i geisio cymorth?

Beth sy'n bwysig i chi

  • Pobl - Rydych yn dda gyda phobl, rydych wrth eich bodd yn dod i'w hadnabod, yn treulio amser gyda nhw ac yn gweithio fel rhan o grŵp/ tîm.


  • Gwneud gwahaniaeth - Rydych wrth eich bodd yn gwybod eich bod yn gwneud gwahaniaeth i helpu pobl i fyw eu bywydau gorau, waeth pa mor fach yw'r gwahaniaeth hwnnw.


  • Rhoi cynnig ar bethau newydd - Rydych wrth eich bodd yn dysgu ac yn rhoi cynnig ar bethau newydd; rydych yn hoffi datblygu eich gwybodaeth fel y gallwch helpu pobl.


  • Bod yn brysur - Rydych yn mwynhau bod yn llawn mynd.


  • Bod yn hyblyg a defnyddio'ch menter eich hun - Rydych wrth eich bodd ag amrywiaeth, a byddech yn casáu gwneud yr un pethau yn yr un ffordd bob dydd.


  • Cymryd cyfrifoldeb - Rydych yn meddu ar gymhelliant cryf ac rydych hapusaf yn gweithio mewn tîm cefnogol a chysylltiedig, gan wneud penderfyniadau gyda'ch gilydd a rhoi cynnig ar syniadau newydd.


Beth allwn ni ei gynnig i chi:

  • Byddwn yn sicr yn rhoi croeso cynnes i chi i'n tîm o'r funud y byddwch yn dechrau a byddwch yn ymgymryd â phroses sefydlu lawn, gan gynnwys yr hyn sy'n bwysig i chi ac i'ch tîm a sut y byddwch yn gweithio gyda'ch gilydd.


  • 10 gwers yrru i'ch helpu ar eich ffordd.


  • Cyfraddau tâl cystadleuol (y Cyflog Byw Cenedlaethol)


  • Yr holl hyfforddiant y talwyd amdano yn rhan o'r Academi Gofal


  • Yr hyfforddiant a'r cymorth cywir i gyflawni'r rôl; bydd hyn yn cynnwys e-ddysgu ar-lein, hyfforddiant wyneb yn wyneb a chysgodi
  • Cyfle i ddatblygu i fod yn Rheolwr Gofal neu'n Weithiwr Cymdeithasol


  • Cymorth parhaus gan eich rheolwr llinell a'r tîm.


  • Amryw o leoliadau, a bydd rhai ohonynt yn cynnwys gwaith sifft


Fel rhan o'r broses recriwtio bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • Mynd i diwrnod recriwtio (Dydd Iau 11eg o Orffennaf 2024)
  • Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.


Bydd ceisidau'n cael eu hysteried fesul unigolyn i'r rheiny sydd  chymhwyster lefel 2 mewn Gofal Oedolion neu Blant.

Cofrestrwch yma ar gyfer un o'r Sesiynau Gwybodaeth am fwy o wybodaeth ar beth sydd gan yr Academi Gofal ei gynnig i chi

Cysylltwch â Dana James dejames@sirgar.gov.uk
Sally Bennett sbennett@sirgar.gov.uk

Disgrifiad Swydd: 033975.pdf - 212KB

Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad: 11 Gorffennaf 2024

Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 23/06/2024, 23:55

Y Buddion

Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd


Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.

Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.