MANYLION.
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: £53,997 - £59,597
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 13 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Dirprwy Bennaeth - Ysgol Cynddelw

Cyngor Wrecsam

Cyflog: £53,997 - £59,597

Ynglŷn â'r Rôl
Rydym am benodi Dirprwy Bennaeth deinamig ac eithriadol o fedrus ar gyfer Ffederasiwn Dyffryn Ceiriog. Rydym yn chwilio am arweinydd strategol i ymuno â'n tîm ffederasiwn ac i barhau i hyrwyddo ein hethos cynhwysol a theuluol. Dyma gyfle i unigolyn fod yn rhan o dîm Arweinyddiaeth Uwch ymroddedig sy'n sicrhau mae'r ysgolion yn gwella'n barhaus. Rydym yn edrych i benodi unigolyn rhagorol a all weithio'n agos gyda'r Pennaeth i wireddu'r weledigaeth o sicrhau 'Hapusrwydd, Hyder a Llwyddiant' ym mhob agwedd o fywyd yr ysgolion. Mi fydd yr unigolyn wedi'i leoli yn Ysgol Cynddelw i ddechrau fel athro dosbarth Iau Saesneg ond yn ddirprwy ar draws y ddwy ysgol sydd yn y ffederasiwn, Ysgol Cynddelw ac Ysgol Llanarmon Dyffryn Ceiriog. Fel Dirprwy Bennaeth, byddant yn cefnogi'r Pennaeth i arwain tîm ymroddedig ac angerddol, gan ddarparu arweinyddiaeth broffesiynol i sicrhau bod yr ysgolion yn parhau â'i thaith wella gan ddarparu addysg o ansawdd uchel i'n holl ddisgyblion. Dylai ymgeiswyr fod yn rhugl yn y Gymraeg a bod ag ymrwymiad cryf i'r iaith a'r diwylliant Cymraeg.

Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus:

• Dangos arweinyddiaeth gref a deinamig.

• Adeiladu ar gryfderau ein hysgolion mewn cydweithrediad â'r holl randdeiliaid.

• Modelu ac ysbrydoli arfer rhagorol yn yr ystafell ddosbarth, gan gynnal angerdd cryf dros addysgu a dysgu a chefnogi'r staff i ddathlu eu llwyddiannau.

• Cymell, ysbrydoli ac ymgysylltu â'r holl ddisgyblion a staff yng nghymuned yr ysgol.

• Dangos ymrwymiad cryf i hyrwyddo lles a llais y disgybl.

• Cynnal a chryfhau'r cysylltiadau ar draws y ffederasiwn a'r gymuned gan hyrwyddo arfer gorau a pherthnasoedd cadarnhaol i ddatblygu'r ysgolion cyfan ymhellach.

• Creu amgylchedd sy'n sicrhau ymddygiad cadarnhaol, parch, goddefgarwch ac amrywiaeth i bob disgybl ac yn hyrwyddo safonau uchel o gyflawniad.

• Ymrwymo i ddull meithringar sy'n cefnogi ein holl ddisgyblion a'u teuluoedd.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â'r Pennaeth:

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Amdanom Ni
Amdanom ni - Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweinyddu gwasanaethau amrywiol sy'n helpu i wella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau o'n cwmpas. Rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau o safon uchel drwy gydweithredu gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol. Gyda phwyslais ar ddatblygiad cynaliadwy, lles y gymuned a chyfleoedd cyfartal i bawb, mae Wrecsam yn lle gwych i weithio, byw a dysgu.

Yn y Cyngor, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth, cefnogi twf personol a phroffesiynol, ac yn darparu amgylchedd gwaith hyblyg a chefnogol. Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl Wrecsam a thros y rhanbarth ehangach.

About Us - Wrexham County Borough Council

Wrexham County Borough Council delivers a wide range of services aimed at improving the lives of Wrexham residents and surrounding communities. We are committed to providing high-quality services through collaboration with local and national partners. With a focus on sustainable development, community wellbeing, and equal opportunities for all, Wrexham is a fantastic place to work, live, and learn.

At the Council, we value diversity, support personal and professional growth, and offer a flexible and supportive working environment. Join us to make a real difference in the lives of people in Wrexham and the wider region.