MANYLION
  • Lleoliad: Carmarthenshire,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Mehefin , 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Pennaeth Ysgol Gynradd Llannon

Cyngor Sir Caerfyrddin
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 217

Sefydliad: Ysgolion

Adain: Ysgol Gynradd Llannon

Nifer y swyddi gwag: 1

Math o gontract: Parhaol Amser Llawn

Lleoliad: Sir Gaerfyrddin

Gradd: Penaethiaid/Penaethiaid Cynorthwyol/Dirprwy Benaethiaid - Cyflog ac Amodau

Cyflog o: £49,213

Cyflog i: £49,213

Oriau Contract: Llawn Amser

Dewch i ymuno â'n tîm
Ysgol Gynradd Llannon

94 ar y Gofrestr

Graddfa Gyflog: £59,990 - £69,598 (L10 - L16)

PENNAETH

(Erbyn Medi 2024)

Cyf: 006494

Mae Ysgol Llannon yn ysgol gymunedol Gymraeg fywiog sy'n darparu addysg ar gyfer disgyblion 4 - 11 oed.

Dymuna'r llywodraethwyr benodi ymarferwr ysbrydoledig, brwdfrydig, ymroddgar a deinamig i arwain, herio a pharhau i godi ein dyheadau a sicrhau cyfleoedd dysgu rhagorol cyson i bob disgybl. Mi fydd yna ddisgwyliad i'r pennaeth gael cyfrifoldeb dysgu am ganran o'r wythnos.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â:
  • Gweledigaeth glir am ragoriaeth addysgol ac yn angerddol ynglŷn â gwella cyflawniadau disgyblion
  • Gallu i adeiladu ar y cryfderau presennol a datblygu potensial disgyblion a staff ymhellach;
  • Gallu i ysbrydoli, ysgogi ac ennyn brwdfrydedd disgyblion a staff;
  • Disgwyliadau uchel o ran cynnydd, cyrhaeddiad ac ymddygiad disgyblion, gan sicrhau bod diddordebau a llesiant disgyblion wrth wraidd yr holl waith cynllunio;
  • Egni i gynnal y cyfleoedd Cwricwlwm cyfoethog ac eang, wrth ymgorffori egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru er mwyn sicrhau profiadau dysgu perthnasol iawn i bob disgybl;
  • Sicrhau cyfleoedd cyfartal, tegwch a rhagoriaeth i bawb.
  • Yn gyfathrebwr rhagorol sy'n gallu ymgysylltu'n effeithiol â phlant, rhieni, staff a llywodraethwyr trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg.

Mae Ysgol Llannon wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac yn disgwyl i'r holl staff rannu'r ymrwymiad hwn.

Rhaid i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am eu swydd Pennaeth gyntaf feddu ar y CPCP. Byddem yn ystyried ymgeiswyr sydd ar garfan bresennol y rhaglen Darpar Brifathrawon.

BYDD YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS YN DESTUN GWIRIAD MANWL Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD (DBS)

Dyddiad Cau: Dydd Llun, 17eg o Fehefin 2024

Llunio'r Rhestr Fer: Dydd Llun, 24ain o Fehefin 2024

Cyfweliadau: Dydd Mercher, 3ydd a Dydd Iau 4ydd o Orffennaf 2024

Disgrifiad Swydd: 24-06-07 - Pecyn Recriwtio Pennaeth - Llannon - Ddwyieithog.pdf - 638KB

Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad: 3 Gorffennaf 2024

Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 5 - Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 17/06/2024, 23:55

Y Buddion

Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd


Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.

Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.