MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Mehefin , 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro / Athrawes - Ysgol Myrddin

Cyngor Sir Caerfyrddin
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 384

Sefydliad: Ysgolion

Adain: Ysgol Gynradd Myrddin

Nifer y swyddi gwag: 1

Math o gontract: Parhaol Amser Llawn

Lleoliad: Caerfyrddin

Gradd: Athrawon Ysgol

Cyflog: £30,742 - £47,340 (MPR2 - UPR3)

Cyfradd yr awr: n/a

Oriau Contract: 10 sesiynau

Dewch i ymuno â'n tîm
Mae Ysgol Myrddin wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel, cadarnhaol a chynhwysol lle mae pob plentyn yn cael eu hannog i gredu ynddynt eu hunain ac i fod y gorau y gallant fod. Rydym yn meithrin, grymuso ac ysbrydoli plant, yn gwerthfawrogi eu cyfraniadau, ac yn rhoi pob cyfle iddynt ddisgleirio. Rydym yn eu helpu i feithrin hyder, gwybodaeth a chariad at ddysgu.

Hoffai'r corff llywodraethu benodi Athro / Athrawes rhagorol, i gefnogi tîm ymroddedig a chyfeillgar o staff sydd am sicrhau'r gorau ar gyfer pob disgybl.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:

Ymarferydd ystafell ddosbarth rhagorol
Cydweithio'n effeithiol fel rhan o dîm gweithgar a brwdfrydig
Gweithio'n greadigol er mwyn cyrraedd nodau ac amcanion yr ysgol
Gweithio'n gydwybodol gan gynnal a herio safonau uchel
Gweithredu systemau effeithiol i asesu, adrodd ar gynnydd a dadansoddi cynnydd disgyblion
Gosod y dysgu fel prif ffocws ar gyfer cynllunio, rheoli adnoddau, monitro, adolygu a gwerthuso
Meithrin safonau, cynhwysiant a lles ein holl ddysgwyr
Hyrwyddo a chynnal disgwyliadau uchel o ymddygiad a disgyblaeth
Fel aelod allweddol o'r tîm, gwneud cyfraniad sylweddol, cadarnhaol a phroffesiynol at ddyfodol yr ysgol

Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau addysgu a rhyngbersonol rhagorol er mwyn sicrhau gwaith tîm llwyddiannus yn yr ysgol ac i gynnal y safonau uchel a gyflawnir yn Ysgol Myrddin a brwdfrydedd brwd i yrru gweithgareddau allgyrsiol yr ysgol.

Disgrifiad Swydd: 006286 - Teacher Myrddin School .pdf - 143KB

Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 12/06/2024, 23:55

Y Buddion

Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd


Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.

Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.