MANYLION
  • Lleoliad: Usk, Monmouthshire, NP15 1GA
  • Testun: Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch - Cefnogi a Chyflwyno Dysgu - (Lefel 4) - Ysgol Gymraeg Trefynwy,

Cyngor Sir Fynwy
Mae cyfle wedi dod i wneud gwahaniaeth gwirioneddol; y cyfle i ddod yn rhan o dîm
ymroddedig yn Ysgol Gymraeg Trefynwy, ein hegin ysgol yn Nhrefynwy, sy’n agor ym
mis Medi 2024.

Mae gennym 12 o ddisgyblion o Feithrin i Flwyddyn 1 eisoes wedi cofrestru ac yn barod
i ddechrau eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, sy’n gyfnod cyffrous a hanesyddol i
dref Trefynwy. Mae Cylch Ti a Fi ffyniannus, o dan arweinydd ysbrydoledig yn cyfarfod
yn lleol, ac o 2025 ymlaen, bwriedir agor Cylch Meithrin gyda darpariaeth cofleidiol lawn
yn yr ysgol.

Rydym yn chwilio am ymarferydd ysbrydoledig, sy’n angerddol am yr iaith Gymraeg a’i
diwylliant ac mewn gwneud gwahaniaeth i brofiadau bywyd plant.

Mae’r Llywodraethwyr yn chwilio am rywun sydd:

• â disgwyliadau uchel o ran dysgu ac ymddygiad;
• yn ymarferydd Cam Cynnydd 1 a 2 ysbrydoledig ac effeithiol;
• yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a'r Saesneg;
• ag angerdd i sicrhau bod pob plentyn yn llwyddo;
• yn gallu herio pob plentyn i gyflawni ei orau;
• yn credu mewn gwelliant parhaus i chi'ch hun fel ffordd o gyflawni'r gorau oll i
blant a theuluoedd ein cymuned.
• yn meddu ar yr egni a’r ymrwymiad i fynd y ‘filltir ychwanegol’,
• yn gweithio'n dda gyda gweithwyr proffesiynol eraill a chymuned ehangach yr
ysgol;
• yn helpu i lunio dyfodol ein hysgol mewn cytgord ag ethos a gweledigaeth;

Diben y Rôl:

• Ategu gwaith proffesiynol yr athro drwy gymryd cyfrifoldeb am weithgareddau dysgu y cytunwyd arnynt o dan system oruchwylio y cytunwyd arni. Gall hyn gynnwys cynllunio, paratoi a chyflwyno gweithgareddau dysgu ar gyfer unigolion/grwpiau neu dymor byr ar gyfer dosbarthiadau cyfan a monitro disgyblion ac asesu, cofnodi ac adrodd ar gyflawniad, cynnydd a datblygiad disgyblion.
• Yn gyfrifol am reoli a datblygu maes arbenigol o fewn yr ysgol a/neu reoli cynorthwywyr addysgu eraill, gan gynnwys dyrannu a monitro gwaith, gwerthuso a hyfforddi.

Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys:

Cymorth ar gyfer Disgyblion
• Asesu anghenion disgyblion a defnyddio gwybodaeth fanwl a sgiliau arbenigol i gefnogi dysgu'r disgyblion.
• Sefydlu perthynas waith gynhyrchiol gyda disgyblion, gan weithredu fel model rôl a gosod disgwyliadau uchel.
• Datblygu a gweithredu CAU.
• Hyrwyddo cynhwysiad a derbyniad pob disgybl o fewn y dosbarth.
• Cefnogi disgyblion yn gyson tra'n cydnabod ac ymateb i'w hanghenion unigol.
• Annog disgyblion i ryngweithio a gweithio ar y cyd ag eraill ac ennyn diddordeb pob disgybl mewn gweithgareddau.
• Hyrwyddo annibyniaeth a defnyddio strategaethau i gydnabod a gwobrwyo cyflawniad o hunanddibyniaeth.
• Darparu adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd a chyflawniad.

Cymorth ar gyfer yr Athro/Athrawes
• Trefnu a rheoli amgylchedd dysgu ac adnoddau priodol.
• O fewn system oruchwylio y cytunwyd arni, cynllunio amcanion addysgu a dysgu heriol i werthuso ac addasu cynlluniau gwersi/gwaith fel y bo'n briodol.
• Monitro a gwerthuso ymatebion disgyblion i weithgareddau dysgu trwy ystod o strategaethau asesu a monitro yn erbyn amcanion dysgu a bennwyd ymlaen llaw.
• Darparu adborth gwrthrychol a chywir ac adroddiadau yn ôl yr angen ar gyflawniad disgyblion, cynnydd a materion eraill, gan sicrhau bod tystiolaeth briodol ar gael.
• Cofnodi cynnydd a chyflawniad mewn gwersi/gweithgareddau yn systematig a darparu tystiolaeth o ystod a lefel cynnydd a chyrhaeddiad.
• Gweithio o fewn polisi disgyblaeth sefydledig i ragweld a rheoli ymddygiad yn adeiladol, gan hyrwyddo hunanreolaeth ac annibyniaeth.
• Cefnogi rôl rhieni yn nysgu disgyblion a chyfrannu at/arwain cyfarfodydd gyda rhieni i roi adborth adeiladol ar gynnydd/cyflawniad disgyblion, ac ati.
• Gweinyddu ac asesu/marcio profion a goruchwylio arholiadau/profion.
• Cynhyrchu cynlluniau gwersi, taflenni gwaith, cynlluniau, ac ati.

Cymorth gyda’r Cwrciwlwm
• Cyflwyno gweithgareddau dysgu i ddisgyblion o fewn system oruchwylio y cytunwyd arni, gan addasu gweithgareddau yn unol ag ymateb/anghenion disgyblion.
• Cyflwyno strategaethau dysgu lleol a chenedlaethol, e.e. Llythrennedd, rhifedd, y blynyddoedd cynnar, a gwneud defnydd effeithiol o’r cyfleoedd a ddarperir gan weithgareddau dysgu eraill i gefnogi datblygiad medrau disgyblion.
• Defnyddio TGCh yn effeithiol i gefnogi gweithgareddau dysgu a datblygu hyfedredd ac annibyniaeth disgyblion wrth ei defnyddio.
• Dethol a pharatoi adnoddau angenrheidiol i arwain gweithgareddau dysgu, gan gymryd i ystyriaeth ddiddordebau ac iaith a chefndir diwylliannol y disgyblion.
• Cynghori ar leoli a defnyddio cymorth/adnoddau/offer arbenigol yn briodol.

Cymorth ar gyfer yr Ysgol
• Cydymffurfio a chynorthwyo gyda datblygiad polisïau a gweithdrefnau yn ymwneud ag amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeledd, cyfrinachedd a diogelu data, gan adrodd am bryderon i berson priodol.
• Bod yn ymwybodol o wahaniaeth a'i gefnogi a sicrhau bod pob disgybl yn cael mynediad cyfartal i gyfleoedd i ddysgu a datblygu.
• Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol.
• Sefydlu perthnasoedd adeiladol a chyfathrebu ag asiantaethau/gweithwyr proffesiynol eraill, mewn cysylltiad â'r athro, i gefnogi cyflawniad a chynnydd disgyblion.
• Cymryd yr awenau fel y bo'n briodol i ddatblygu dulliau aml-asiantaeth priodol o gefnogi disgyblion.
• Adnabod eich cryfderau a'ch meysydd arbenigedd eich hun a defnyddio'r rhain i arwain, cynghori a chefnogi eraill.
• Cyflwyno gweithgareddau dysgu y tu allan i'r ysgol o fewn canllawiau a sefydlwyd gan yr ysgol.
• Cyfrannu at nodi a chyflawni gweithgareddau dysgu priodol y tu allan i'r ysgol sy'n atgyfnerthu ac yn ymestyn y gwaith a wneir yn y dosbarth.
• Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant ac Oedolion yn flaenoriaethau allweddol i'r Ysgol a'r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sydd mewn perygl i fod mor ddiogel ag y gallant ac i gyflawni eu potensial. Chi sy'n gyfrifol am chwarae eich rhan mewn lles, diogelwch ac amddiffyn plant ac oedolion sy'n wynebu risg. Bydd gennych gyfrifoldeb i gymryd rhan mewn hyfforddiant i'r lefel briodol o ddiogelu a bydd gennych ddyletswydd i gyflawni eich cyfrifoldebau personol am ddiogelu.


Mae pob gweithiwr yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn gweithredu bob amser mewn ffordd sy’n gyson â Pholisi Cyfle Cyfartal Sir Fynwy yn eu maes cyfrifoldeb eu hunain ac yn eu hymddygiad cyffredinol.