MANYLION
  • Lleoliad: Usk, Monmouthshire, NP15 1GA
  • Testun: Athro
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Arweiniol - Ysgol Gymraeg Trefynwy

Cyngor Sir Fynwy
GRADD/ CYFLOG: Graddfa Gyflog Athrawon (gan gynnwys UPS3 lle bo’n berthnasol) ynghyd â lwfans CAD 2 (£3,271)

DIBEN Y SWYDD

Mae’n bleser gan y Corff Llywodraethu Cysgodol gyhoeddi y bydd Ysgol Gymraeg Trefynwy yn agor ei drysau ym Medi 2024 fel egin ysgol ar safle Ysgol Gynradd Overmonnow, sy’n hawdd ei chyrraedd o brif drefi a dinasoedd fel Caerdydd (50 munud), Casnewydd (20 munud) a Chwmbrân (30 munud).

Yn ystod 2024-2025, bydd gwaith adeiladu sylweddol yn cael ei wneud i greu dwy ysgol annibynnol ar safle Overnomow. Disgwylir i ran newydd Ysgol Gymraeg Trefynwy agor ym mis Medi 2025, a bydd ganddi gapasiti cychwynnol o 90, gyda’r bwriad arfaethedig i gynyddu i 210 erbyn 2032, fel y nodir yn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg diweddaraf. Bydd cynlluniau adeiladu ar gael sy'n dangos y gwaith arfaethedig sydd i fod i ddechrau'n fuan.

Mae gennym 12 o ddisgyblion o Feithrin i Flwyddyn 1 eisoes wedi cofrestru ac yn barod i ddechrau eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg, sy’n foment gyffrous a hanesyddol i dref Trefynwy. Mae Cylch Ti a Fi ffyniannus, o dan arweinydd ysbrydoledig yn cyfarfod yn lleol, ac o 2025 ymlaen bwriedir agor Cylch Meithrin gyda darpariaeth cofleidiol lawn yn yr ysgol.
Rydym yn chwilio am ymarferydd Cam 1 a 2 ardderchog, ac arweinydd cyfnod creadigol ac ysbrydoledig i ddechrau ar y gwaith o sefydlu’r ysgol ochr yn ochr â’r Pennaeth a’r Corff Llywodraethu.

Mae'r plant yn barod ac yn aros amdanoch chi!

Mae'r llywodraethwyr yn chwilio am rywun:
• Sy’n gallu dangos profiad o fod yn ymarferwr ymroddedig i addysgu a dysgu ysbrydoledig;
• sy’n meddu ar sgiliau cyfathrebu, arwain a rhyngbersonol rhagorol;
• sy’n gallu cefnogi rheoli gofynion yr ysgol o ddydd i ddydd;
• ag angerdd i sicrhau bod pob plentyn yn llwyddo;
• yn meddu ar yr awydd a'r ymrwymiad i gefnogi'r Pennaeth Gweithredol i gyflawni blaenoriaethau cenedlaethol ac ysgol;
• sy’n fodel rôl ardderchog ac yn effeithiol wrth arwain, ysgogi a chefnogi tîm;
• sy’n gallu rheolwr llinell staff addysgu a chymorth yn effeithiol;
• sy’n gallu gweithio'n effeithiol mewn partneriaeth â chymuned ehangach yr ysgol;
• wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch a lles ein holl ddisgyblion;
• sy’n meddu ar hunan-gymhelliant ac arloesol i yrru a chwblhau tasgau;
• sy'n athro cam cynnar 1 a 2 ysbrydoledig ac effeithiol.
• sy'n frwd dros ddiwylliant Cymru ac a fydd yn mwynhau'r her bwysig a hanesyddol o ailgysylltu cenhedlaeth newydd gyfan yn Ne-ddwyrain Cymru â'r Gymraeg. Sydd ag angerdd ac yn frwd ac eisiau rhannu'r Gymraeg gyda disgyblion a'r gymuned ehangach i'w galluogi i dyfu a byw trwy gyfrwng y Gymraeg.
• a fydd yn tynnu sylw at fanteision dwyieithrwydd mewn cymdeithas ddatganoledig sy'n newid yn barhaus fel yng Nghymru.
• sy'n barod i ymhél â heriau a chymhlethdodau sefydlu ysgol newydd ac a fydd yn sicrhau cydweithrediad da rhwng Ysgol Overmonnow ac Ysgol Gymraeg Trefynwy drwy gytundeb partneriaeth.
• sy'n barod i gydweithio ag ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg presennol Cyngor Sir Fynwy i harneisio agweddau gorau arfer da a dysgu ar y cyd er lles pob disgybl.
• sy’n unigolyn â ffocws cymunedol sy’n gallu cynnal, datblygu a hyrwyddo partneriaethau ag asiantaethau allanol a’r gymuned leol. Hoffem weld bod gan yr ysgol bresenoldeb blaenllaw yn y gymuned, gyda'r athro arweiniol yn eiriolwr dros y Gymraeg o fewn yr ysgol a'i defnydd yn y gymuned ehangach.
• sy’n cychwyn dangos meddwl strategol tuag at sefydlu cysylltiadau cryf â'r gymuned ehangach sy'n cefnogi ethos, diwylliant a gwerthoedd ysgol cyfrwng Cymraeg yng Ngogledd Sir Fynwy.
• sy'n mynd ati i hyrwyddo’r ysgol a recriwtio teuluoedd sydd eisiau dewis addysg Gymraeg yn Nhrefynwy a chanfod llwybr dwyieithrwydd ac a fyddai'n cefnogi ein hethos ni.
• sy’n meddu ar sgiliau fydd yn uniaethu a chydweithio gyda rhieni gan ddatblygu perthynas gref gyda’n cymuned o ofalwyr
• sy’n gallu dangos sgiliau rheoli cyfnod addysgol o ansawdd uchel i'r holl randdeiliaid (staff, rhieni, llywodraethwyr, ffrindiau a disgyblion) a gallu cyflwyno, trafod a chyfrannu at wneud penderfyniadau er lles pawb yng nghymuned yr ysgol.
• sy’n gallu cynorthwyo gyda rheoli'r adnoddau sydd ar gael i'r ysgol a sicrhau bod y rhain yn cael eu defnyddio'n effeithiol ac yn effeithlon.
• Sy’n gallu gwarantu y bydd pob plentyn yn derbyn addysg o'r radd flaenaf drwy gyfrwng y Gymraeg.