MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £24,883.56 (ac amser ychwanegol) - £24,883.56 (ac amser ychwanegol)
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gweithiwr Fferm Cyffredinol CC/2598

Coleg Cambria

Cyflog: £24,883.56 (ac amser ychwanegol) - £24,883.56 (ac amser ychwanegol)

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Gweithiwr Fferm Cyffredinol

Lleoliad: Llysfasi

Y Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser

Cyflog: £24,883.56 (ac amser ychwanegol)

Am y Swydd:

Rydym yn chwilio am Weithiwr Fferm Cyffredinol ymroddedig i ymuno â'n tîm ar safle Llysfasi Coleg Cambria. Mae'r swydd hon yn hanfodol i sicrhau gwaith ein fferm yn rhedeg yn llyfn, gan ganolbwyntio ar gynorthwyo i odro ein buches laeth ac i wneud amrywiaeth o weithrediadau da byw a pheiriannau, dan arweiniad ein Rheolwr Fferm.

Byddwch chi'n rhan o rota weithio, sydd fel arfer yn golygu gweithio am 10 niwrnod a 4 diwrnod heb weithio (gan gynnwys 1 penwythnos heb weithio).

Buddion:
  • Tŷ ar gael ar y safle â chymhorthdal sylweddol, os oes angen
  • Hawl gwyliau hael
  • Cynllun pensiwn ardderchog
  • Cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol

Cyfrifoldebau:

Bydd y Gweithiwr Fferm Cyffredinol yn gyfrifol am gynnal ystod gynhwysfawr o ddyletswyddau fferm. Mae hyn yn cynnwys y broses odro, hwsmonaeth da byw, a gweithredu peiriannau'r fferm. Byddwch yn cyfrannu at ein hymrwymiad i safonau uchel trwy gynnal ardaloedd gweithio glân a sicrhau bod iechyd a lles ein hanifeiliaid yn cael eu cynnal yn gyson. Agwedd hanfodol ar y swydd hon yw cefnogi ein cenhadaeth addysgol. Byddwch yn gweithio'n agos gyda darlithwyr i hwyluso profiadau dysgu ymarferol i'n myfyrwyr, gan sicrhau bod pob tasg fferm yn cael ei chwblhau gyda chanlyniadau addysgol mewn golwg. Yn y swydd, mae gofyn am hyblygrwydd a chydweithio ag aelodau eraill o dîm y fferm i reoli gweithgareddau fferm fel bwydo a dyletswyddau eraill yn effeithlon ac effeithiol.

Gofynion Hanfodol
  • Profiad diweddar yn y diwydiant amaethyddiaeth
  • Gallu gweithredu ystod o beiriannau amaethyddol
  • Dangos gallu mewn cynhyrchu cnydau a da byw, gan gynnwys godro
  • Gallu sefydlu perthnaseddau gwaith da ac yn aelod cadarn o dîm

Mae sgiliau'r Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig