MANYLION
  • Lleoliad: Pencoed,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Digymhwyster: £24,049 - £28,381 pro rata y flwyddyn Cymwysedig: £30,620 - £47,331 pro rata y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Awst, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd CAD a Dylunio(Cyfnod Mamolaeth)

Coleg Penybont

Cyflog: Digymhwyster: £24,049 - £28,381 pro rata y flwyddyn Cymwysedig: £30,620 - £47,331 pro rata y flwyddyn

Darlithydd CAD a Dylunio(Cyfnod Mamolaeth)

Disgrifiad o'r swydd Darlithydd CAD a Dylunio

Digymhwyster: £24,049 - £28,381 pro rata y flwyddyn
Cymwysedig: £30,620 - £47,331 pro rata y flwyddyn

0.6 cyfwerth ag amser llawn (22.2 awr yr wythnos) a Chyfnod Penodol am 1 flwyddyn hyd at 31ain Orffennaf 2025 (Cyfnod Mamolaeth)

Mae gennym gyfle cyffrous i Ddarlithydd rhan amser mewn CAD a Dylunio i ymuno â'n tîm Peirianneg wych ar sail cyfnod penodol i gyflenwi dros gyfnod mamolaeth.

Bydd gennych wybodaeth gyfredol a pherthnasol, a rhaid iddi gynnwys dealltwriaeth fanwl o becynnau meddalwedd AutoCAD, Inventor a REVIT a phrofiad o ddatblygu a threfnu deunyddiau sy'n gysylltiedig â gwaith. Dylech hefyd feddu ar dystysgrif TAR (neu fod yn barod i'w chael) ynghyd â chymhwyster Lefel 4 mewn maes pwnc Peirianneg neu Adeiladu a'r gallu i addysgu ar y lefel hon. Gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol bydd gennych y gallu i uniaethu â phoblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr, a bod yn angerddol dros ysgogi pob dysgwr.

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .

Cyfweliad i'w gynnal ganol mis Awst 2024.

Nid oes angen i ymgeiswyr blaenorol wneud cais.

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw’r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o’u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.