MANYLION
  • Lleoliad: Aberystwyth,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: 33,024 - 34,834 *
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Swyddog Cynhwysiant Addysg

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 33,024 - 34,834 *

Ynglŷn â'r rôl
Rydym am recriwtio Swyddog Cynhwysiant Addysg i ymuno â'n Gwasnaeth Cynhwysiant Addysg ar gytundeb rhan amser. Mae hyn yn gyfle gwych i unigolyn brwdfrydig ymuno gyda thim egniol i gefnogi lles , presenoldeb a deilliannau disgyblion Ceredigion. Yn rhan o'ch dyletswyddau mi fyddwch yn sicrhau bod yr awdurdod a'i ysgolion yn cadw at cyfrifoldebau statudol yng nghyswllt presenoldeb yn yr ysgol a materion cysylltiedig. Mi fyddwch hefyd yn cefnogi ysgolion, plant a'u theuluoedd drwy sicrhau fod pob disgybl yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd.

O ddydd i ddydd byddwch yn:
  • herio a chefnogi ysgolion unigol yng nghyswllt presenoldeb disgyblion a rhoi cyngor ar arfer dda
  • cefnogi rhieni i gyflawni eu dyletswydd cyfreithiol yng nghyswllt addysg eu plentyn (plant)
  • ymgymryd a gwaith achos gyda disgyblion a rhieni
  • gweithio gydag adrannau ac asiantaethau eraill fel y bo angen
  • ymgymryd a maes gwaith arbenigol ar ran y gwasanaeth (fel y cytunwyd gan y reolwr llinell)

Rydym am recriwtio unigolyn sydd a'r sgiliau canlynol :
  • medru gweithio ar ben eich hun a blaenoriaethu baich gwaith
  • yn drefnus a medru dadansoddi data ac ysgrifennu adroddiadau cryno
  • parodrwydd i herio ysgolion yng nghyswllt gweithredu arfer dda
  • parodrwydd i herio agweddau a all effeithio ar hawl y plentyn i addysg gyflawn ac effeithiol a defnyddio ymyrraeth gyfreithiol, os oes angen
  • medru gweithio yn effeithiol o fewn cyd-destun amlasiantaethol yn ol yr angen
  • sgiliau cyfathrebu ardderchog, yn llafar ac yn ysgrifenedig

Yn ogystal â'r uchod, rydym yn gofyn am unigolyn sydd â lefel o ruglder yn y Gymraeg.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i'w gweld yma. Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi'ch datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â'ch gyrfa gyda ni.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch â: Catrin Petche, Arweinydd Tîm Gwasanaeth Cynhwysiant Addysg ar Catrin.Petche@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch.Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy