MANYLION
- Lleoliad: Llangewydd Junior,
- Oriau: Not Specified
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Misol
- Cyflog: £6,966 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cynorthwyydd Cymorth Dysgu - Llangewydd Junior School
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £6,966 y flwyddyn
Cynorthwyydd Cymorth Dysgu - Llangewydd Junior SchoolDisgrifiad swydd
13 awr yr wythnos
Dros dro am hyd at 1 flwyddyn
Yn ystod tymor yr ysgol
Mae Ysgol Iau Llangewydd wedi'i lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac mae'n rhan o glwstwr o ysgolion Bryntirion. Mae 343 o ddisgyblion ar y gofrestr sydd rhwng saith ac un ar ddeg oed. Mae gan yr ysgol 12 o ddosbarthiadau prif ffrwd a 2 ddosbarth ADY.
Rhan-amser dau ddiwrnod yr wythnos
Mae'r Corff Llywodraethu yn ceisio penodi Cynorthwyydd Cymorth Dysgu sy'n ddibynadwy, yn greadigol ac yn hyblyg, sy'n ymrwymedig i gefnogi'r athro dosbarth i hyrwyddo llesiant a dysgu plant.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
- Bod yn gynorthwyydd cymorth dysgu rhagorol yn yr ystafell ddosbarth.
Gallu cefnogi profiadau dysgu o ansawdd uchel gan ddefnyddio eu gwybodaeth am y Cwricwlwm i Gymru.
Bod yn fodel rôl rhagorol i annog deilliannau cadarnhaol.
Gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm llwyddiannus.
Gallu cefnogi anghenion pob dysgwr, gan gynnwys y rhai ag ADY.
Gallu cefnogi gydag ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth a'r tu allan iddi.
Yn Ysgol Iau Llangewydd rydym yn ymrwymedig i ddatblygu proffesiynol o ansawdd uchel, a gallwn gynnig dysgwyr cyfeillgar, brwdfrydig, hapus a fydd yn herio eich ffordd o feddwl. Rydym yn ymrwymedig i lesiant staff a byddwn yn darparu amgylchedd gwaith cefnogol i bawb.
Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ar y rhestr fer ymweld â'r ysgol drwy apwyntiad gyda'r Pennaeth.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Krista Green ar 01656 815530 neu anfonwch e-bost at
Head@llangewyddjs.bridgend.cymru
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 27 Mehefin 2024
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 1 Goffennaf 2024
Dyddiad y Cyfweliad: 8 Goffennaf 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person