MANYLION
- Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF240AB
- Testun: Swyddog Cofrestru
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Blynyddol
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r rheoleiddiwr proffesiynol annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru.
Fel rhan o’r tîm Cymwysterau a Chofrestru, bydd y Swyddog Cofrestru yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni gwaith Cofrestru’r CGA. Bydd hyn yn cynnwys cynnal Cofrestr yr Ymarferwyr Addysg, darparu gwasanaeth ymholi proffesiynol a chyfleusterau desg gymorth i ymarferwyr a chyflogwyr, gan weinyddu gwobrwyo Statws Athro Cymwysedig a datblygu a pharatoi adroddiadau ac ystadegau.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol, gyda phrofiad o drin ymholiadau amrywiol. Byddant hefyd yn siaradwr Cymraeg rhugl a’r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg.
Mae buddion i gyflogeion yn cynnwys mynediad i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, gweithio hybrid, oriau hyblyg a 31 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â 10 gŵyl banc a diwrnod braint).
Mae'r swydd yn barhaol a llawn amser (37 awr yr wythnos).
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 23 Mehefin 2024.
E-bostiwch recriwtio@cga.cymru i gael rhagor o wybodaeth, neu i lawrlwytho pecyn cais, ewch i: https://www.cga.cymru/recriwtio