MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £24,294 - £25,545 Pro Rata | Grade 4
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Gweithiwr Gofal Plant Y Blynyddoedd Cynnar

Torfaen Local Authority

Cyflog: £24,294 - £25,545 Pro Rata | Grade 4

Yn ogystal ag oriau achlysurol efallai y bydd cyfle i weithio boreau yn unig.

Mae Tîm y Blynyddoedd Cynnar yn chwilio am Weithiwr Gofal Plant Achlysurol, sy'n gymwys, profiadol a brwdfrydig, i gamu i mewn i'r rôl pan fydd angen yn codi.

Byddwch yn gyfrifol am gynorthwyo'r Goruchwyliwr Gofal Plant i ddarparu gofal plant o ansawdd uchel yn y maes hwn..

Rhaid bod deiliad y swydd yn meddu ar gymhwyster perthnasol yn y maes Blynyddoedd Cynnar/Gofal Plant, fel NVQ Lefel 3 neu gyfwerth.

Byddai'r gallu i siarad Cymraeg yn fantais neu bydd angen bod yn barod i gymryd rhan yn rhaglen CAMAU Llywodraeth Cymru - sef y cyfle i ddysgu Cymraeg ar gyfer Gofal Plant y Blynyddoedd Cynnar.

Rhaid bod gennych brofiad o weithio gyda phlant, a deall yr hyn sydd ei angen i ddarparu amgylchedd dysgu o ansawdd uchel i blant 0-5 oed. Byddai profiad o ddarpariaeth Dechrau'n Deg yn ddymunol.

I gael trafodaeth anffurfiol ynghylch y swydd hon, cysylltwch ag Emma Edwards ar 07940792823.

Mae'r swydd hon yn destun Gwiriad Uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i bob gweithiwr, cyflogedig neu ddi-dâl, rannu'r ymrwymiad hwn.

Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.