MANYLION
  • Lleoliad: Pencoed,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Digymhwyster: £24,049 - £28,381 Cymwysedig: £30,620 - £47,331
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Darlithydd Adeiladwaith

Coleg Penybont

Cyflog: Digymhwyster: £24,049 - £28,381 Cymwysedig: £30,620 - £47,331

Darlithydd Adeiladwaith

Disgrifiad o'r swydd Darlithydd Adeiladwaith

Digymhwyster: £24,049 - £28,381
Cymwysedig: £30,620 - £47,331
Llawn Amser a Pharhaol

Oes gennych chi gymhwyster crefft Lefel 3 mewn Gwaith Saer neu grefft arall? Ydych chi'n chwilio am ffordd wych o wneud gwahaniaeth ac addysgu cenhedlaeth y dyfodol ar lefel Addysg Bellach? Os ydych chi'n angerddol am ysbrydoli ac ysgogi pob dysgwr, rydyn ni eisiau clywed gennych chi!

Pwrpas y Swydd: Cynllunio, datblygu, gwerthuso a chyflwyno cynnwys cwricwlwm rhaglenni yn effeithiol ac yn effeithlon, a dyfeisio'r ffordd orau o ymestyn ein darpariaeth ac annog cadw.

Rydym yn chwilio yn benodol am sgiliau a phrofiad mewn Gwaith Saer. Byddai ystod o sgiliau adeiladu gan gynnwys gwaith brics, teilsio a thoi yn ddymunol. Bydd gennych brofiad diwydiannol perthnasol a diweddar a byddwch yn llythrennog mewn TG. Bydd gennych hefyd dystysgrif TAR (neu'n barod i'w chael) a gwybodaeth am gynllunio, cyflwyno ac asesu cwricwlwm City and Guilds a phrosesau ansawdd IQA/IV.

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd.

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw’r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o’u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.