MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Digymhwyster: £24,049 - £28,381 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr) Cymwysedig: £30,620 - £47,331 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Darlithydd Celfyddydau Cynhyrchu (Theatr Dechnegol) a delir fesul awr

Coleg Penybont

Cyflog: Digymhwyster: £24,049 - £28,381 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr) Cymwysedig: £30,620 - £47,331 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)

Darlithydd Celfyddydau Cynhyrchu (Theatr Dechnegol) a delir fesul awr

Disgrifiad o'r swydd Darlithydd Celfyddydau Cynhyrchu (Theatr Dechnegol) a delir fesul awr

Noder, contract a delir fesul awr yw hon, sy’n golygu na ellir gwarantu dyddiau nac oriau penodol – fe’u cynigir ar sail achlysurol, ad hoc, i fodloni anghenion y gwasanaeth, felly gallant amrywio.

Digymhwyster: £24,049 - £28,381 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)Cymwysedig: £30,620 - £47,331 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)

Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â’n tîm angerddol a brwdfrydig yng Ngholeg Penybont, gan gyfrannu at addysg a datblygiad y genhedlaeth nesaf o weithwyr theatr dechnegol proffesiynol. Fel darlithydd a delir fesul awr, byddwch yn cynllunio, yn datblygu, yn gwerthuso ac yn cyflwyno cyfarwyddyd ymgysylltiol ac arloesol ar draws ddisgyblaethau theatr dechnegol amrywiol, gan ddarparu mentoriaeth er mwyn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weithwyr theatr dechnegol proffesiynol.

Dylai fod gennych wybodaeth weithiol ragorol o’r celfyddydau cynhyrchu/cynhyrchu cefn llwyfan, gyda gwybodaeth a phrofiad da mewn theatr dechnegol gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) dylunio a gweithredu golau, dylunio a gweithredu sain, fideo a thaflunio, rigio a chynhyrchu neu reoli llwyfan. Dylai fod gennych ddealltwriaeth glir am y diwydiant lleol a chenedlaethol, a byddai cysylltiadau yn y diwydiannau theatr a digwyddiadau byw yn fanteisiol. Mae profiad o weithio gyda phobl ifanc a/neu dystysgrif TAR (neu fod yn barod i weithio tuag at un) yn hanfodol. Gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol a'r gallu i uniaethu â phoblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr, fe fyddwch yn frwd dros ysgogi pob dysgwr a’u paratoi ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiannau theatr a digwyddiadau byw.

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU. Nid yw’r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o’u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.