MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa Gyflog o fewn: £30,742 - £47,340
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Athro / Athrawes - Ysgol Ger y Llan

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Graddfa Gyflog o fewn: £30,742 - £47,340

Disgrifiad Swydd

Mae'r swydd hon yn rôl cyfnod penodol tan Awst 31, 2025.

Mae Llywodraethwyr Ysgol Ger y Llan am benodi athro/athrawes brwdfrydig i ymuno â'r ysgol llwyddiannus a bywiog yma.

Rydym ni'n ysgol hapus a chroesawgar sydd a'i chalon yn y gymuned.

Lleolir ein hysgol ym mhentref Treletert ac mae hi'n ysgol Gymraeg ac yn Ysgol WR yr Eglwys yng Nghymru.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn uchel ei gymhelliant gyda disgwyliadau uchel ar gyfer dysgu disgyblion.

Rydym angen rhywun sy'n:

  • yn athro ysbrydoledig
  • wedi ymrwymo i weithio gyda theuluoedd i sicrhau bod pob plentyn yn hapus, hyderus, creadigol a chwilfrydig
  • y gallu i ysgogi, ysbrydoli a chefnogi cydweithwyr
  • yn greadigol, yn arloesol ac yn bositif

Edrychwch ar ein tudalen Facebook er mwyn cael blas ar ein hysgol hyfryd.

Mae croeso i chi ymweld â'r Ysgol. C ysylltwch â'r Pennaeth, Mrs Christa Richardson, drwy e-bost richardsonc56@hwbcymru.net i drefnu apwyntia d.

Dyddiad cau y swydd 18 . 6 .24.

Tynnu'r rhestr fer ar 19 . 6 .24.

Cynhelir y cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 24 . 6 .24.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.