MANYLION
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Pecyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 14 Mehefin , 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: Pecyn
Pennaeth Cynorthwyol (Ysgol Penmaes)Swydd-ddisgrifiad
Rydym yn awyddus i benodi athro/athrawes ragorol sydd â phrofiad helaeth o arweinyddiaeth ganol ac sy'n frwd dros weithio ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Bydd angen i'r unigolyn llwyddiannus fod yn barod i gofleidio'r maes arweinyddiaeth sy'n heriol ac yn newid yn barhaus.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn llawn cymhelliant, yn arloesol, yn hyblyg ac â hanes profedig o weithio gyda phlant ag ystod eang o anghenion cymhleth. Bydd gan yr ymgeisydd angerdd dros ddatblygu ac ymestyn potensial yn ein disgyblion ac yn ein tîm o staff trwy gydnabod a meithrin rhinweddau a chryfderau unigol gan gynnwys hyrwyddo dull gweithredu positif a chydweithredol.