MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £30,742.00 - I: £47,340.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Mehefin , 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro Ysgol Cynradd, YSGOL GYMUNEDOL TWYNYRODYN

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Cyflog: £30,742.00 - I: £47,340.00

CYNGOR BWRDEISTREF SIROL MERTHYR TUDFUL
YSGOL GYMUNEDOL TWYNYRODYN
Pennaeth: Mr A. Mills

Athro Ysgol Cynradd (Blwyddyn 5/6)
Tymor Penodol (Angen ar gyfer tymor yr Hydref a'r Gwanwyn)
Angen ar gyfer Medi 2024
Dyddiad cau: 14 Mehefin 2024

Rydym yn croesawu ceisiadau gan athrawon brwdfrydig a phrofiadol sydd yn teimlo y gallant adeiladu ar gryfderau'r ysgol a gweithio tuag at ddarpariaeth, cyrhaeddiad a chyflawniad gwych.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
• ymarferwr dosbarth gwych ac yn meddu art ddealltwriaeth glir o ddysgu ac addysgu effeithiol er mwyn ysbrydoli, meithrin ac arwain disgyblion o bob gallu
• meddu ar ddisgwyliadau uchel o gyrhaeddiad ac ymddygiad gan ddangos egni, brwdfrydedd a phenderfynoldeb i godi safonau
• meddu ar ddealltwriaeth o'r cwricwlwm i Gymru gan fod yn rhagweithiol wrth ddysgu'n broffesiynol
• angerddol am addysg ac yn ymroddedig i alluogi pob dysgwr i lwyddo yn eu dysgu gan feithrin perthynas wych a deall anghenion y disgyblion yn dda
• gallu darparu profiadau dysgu o'r safon uchaf a dull dychmygus o ddysgu yn seiliedig ar sgiliau gan gynnwys y gallu i ddefnyddio TGaCh yn effeithiol er mwyn ymgysylltu ac ysbrydoli
• meddu ar allu i ymwreiddio asesiadau ar gyfer strategaethau dysgu, asesu'n effeithiol, gosod targedau a defnyddio data'n effeithiol.
• Meddu ar ddealltwriaeth drylwyr o'r cwricwlwm cynradd statudol a'r fframwaith sgiliau a'r gallu i ddarparu cyfleoedd rheolaidd ar gyfer dysgu sydd yn cael ei arwain gan y disgybl, ar draws y cwricwlwm
• meddu ar agwedd gadarnhaol a brwdfrydig at bob agwedd o fywyd yr ysgol
• meddu ar sgiliau trefniadaeth a chyfathrebu gwych â staff, rhieni a disgyblion
• gallu i ddefnyddio platfformau digidol yn effeithiol er mwyn gwella dysgu'r plant a bod yn ymroddedig i hyrwyddo'r Gymraeg fel ail iaith a llesiant ein disgyblion
• y gallu i gyfrannu'n effeithiol i ddatblygu pwnc arbennig, ledled yr ysgol
• gweithio'n effeithiol â'r Pennaeth a'r tîm arweiniol, cydweithwyr, llywodraethwyr, rhieni a'r gymuned ehangach
• cynorthwyo'n hymdrech i ddatblygu cyfranogiad disgybl sydd yn seiliedig ar barch.

Dylai ymgeiswyr nodi eu cryfderau cwricwlaidd ac unrhyw sgiliau allgyrsiol y gallant eu cynnig i'r ysgol.

Bydd y rhestr fer yn cael ei llunio yn ystod yr wythnos yn dechrau 17 Mehefin 2024.

Gofynnir i ymgeiswyr a fydd yn cyrraedd y rhestr fer i ddysgu gwers yn Ysgol Gymunedol Twynyrodyn a bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn ystod yr wythnos yn dechrau 24 Mehefin 2024.
Mae'r swydd yn destun gwiriad ehangach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Gellir cwblhau ffurflenni cais ar-lein ar www.merthyr.gov.uk

Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gellir cael ffurflenni cais drwy ffonio 01685 725199 a'u dychwelyd i Gweinyddiaeth AD, Canolfan dinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

E-bost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae'r gallu i siarad y Gymraeg yn ddymunol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. Gall ffurflenni cais gael eu cyflwyno yn y Gymraeg ac ni fydd ffurflenni a fydd yn cael eu cwblhau yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai a gyflwynir yn y Saesneg.

Os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, cysylltwch â human.resourcesadmin@merthyr.gov.uk i'n hysbysu os hoffech i'ch cyfweliad gael ei gynnal trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i warchod a diogelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae'n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â'r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a'r polisïau gweithredol perthnasol eraill.