MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Mehefin , 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Addysgu Lefel 2

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

30 awr yr wythnos - G4 £23,500 - £23,893 pro rata

Llawn Amser Contract Dros Dro, 38 wythnos y flwyddyn.

Dros dro gyda'r bwriad o'i adnewyddu'n flynyddol yn dibynnu ar yr angen.

Yn ystod y tymor yn unig heb unrhyw wyliau yn ystod y tymor.

Rhif ffôn: 01978 346890

I ddechrau o 1 Medi 2024, neu cyn gynted â phosibl yn dilyn gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae llywodraethwyr yr ysgol gynradd prif ffrwd fawr, modern, a bywiog hon yn dymuno penodi Cymhorthydd Addysg Lefel 2 i weithio dan gyfarwyddyd/arweiniad staff addysgu/uwch ac i ymgymryd â rhaglenni gwaith, gofal ac addysg disgybl unigol sydd ag anghenion addysgol ychwanegol ym Mlwyddyn 4 ar hyn o bryd. Bydd darparu rhaglenni penodol a gwneud addasiadau angenrheidiol i'r cwricwlwm yn galluogi'r disgybl i ddysgu.

Gallai'r gwaith gael ei wneud yn yr ystafell ddosbarth neu'r tu allan i'r brif ardal addysgu fel y mae'n briodol.

I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu ymweliad â'r ysgol, cysylltwch â Swyddfa'r Ysgol.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau : Dydd Llun 17 Mehefin 2024 - 12:00pm

Cyfweliadau: Dyddiad i'w gadarnhau yr wythnos sy'n cychwyn 24 Mehefin

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod. mailbox@borraspark-pri.wrexham.sch.uk

Mae'n rhaid i ymgeiswyr lenwi Ffurflen Gais Cyngor Sir Wrecsam, ac mae'n rhaid cynnwys llythyr ategol yn amlinellu eu haddasrwydd ar gyfer y swydd hon. Ni ddylai llythyrau ategol fod yn fwy na 2 ochr A4, a dylent gyfeirio'n benodol at y Manylion am yr Unigolyn.

Sylwer, er yr hoffem gydnabod pob cais unigol, nid yw'n ymarferol i ni wneud hynny. Felly, byddwn yn cysylltu â'r ymgeiswyr ar y rhestr fer yn unig ac os na fyddwch yn clywed gennym, rydych wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn a dymunwn yn dda i chi gydag unrhyw geisiadau yn y dyfodol.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg .