MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Mehefin , 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Dysgu Ychwanegol Lefel 1 1-1

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

CYFNOD SYLFAEN

CYMHORTHYDD ADDYSGU LEFEL 1 (Cymorth Unigol)

I WEITHIO AR SAIL UNIGOL 1:1 YN CEFNOGI DISGYBLION AG ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

Gradd L03

26.25 AWR YR WYTHNOS 9am - 3.15pm

YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG HEB UNRHYW WYLIAU YN YSTOD Y TYMOR

I gychwyn ym mis Medi 2024

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yn awyddus i benodi Cymhorthydd Addysgu Lefel 1 brwdfrydig sydd â phrofiad addas i ymuno â'n tîm ymroddgar ac arloesol yn ein cymuned ysgol hapus, ofalgar a chynhwysol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

âœ" Hyrwyddo ethos yr ysgol o gynhwysiant ac yn dathlu natur amrywiol ein hysgol

âœ" Gweithio yn ein hadran Cyfnod Sylfaen gynhwysol a rhoi cymorth 1:1 i gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu (bydd hyfforddiant yn cael ei roi)

âœ" Gweithio'n agos â'r athrawon dosbarth, gan ddarparu ymyraethau penodol i gynorthwyo'r disgybl i wneud cynnydd

âœ" Cefnogi'r disgybl i weithio yn amgylchedd yr ystafell ddosbarth ac mewn grŵp bach/ar sail 1 i 1 gan ganolbwyntio ar dargedau unigol y disgybl

âœ" Gweithio ochr yn ochr â'r athrawon dosbarth a chynorthwywyr addysgu i sefydlu cydberthynas waith gadarnhaol â rhieni ac asiantaethau allanol perthnasol i gefnogi anghenion y disgybl

âœ" Good ICT skills and be able to use IT equipment confidently

âœ" Mae profiad o weithio gyda disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn ddymunol iawn

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â'r Pennaeth ar y rhif ffôn uchod.

Mae angen cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae croeso i ymgeiswyr ymweld â'r ysgol. Ffoniwch 01978 352406 i drefnu apwyntiad.

I ymgeisio: Lawrlwythwch a llenwch ffurflen gais y Gwasanaeth Addysg Gatholig sydd ar gael ar y dudalen we, neu am becyn cais, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt, Stryt.

yr Arglwydd, Wrecsam, LL11 1LG neu ffoniwch: 01978 292012

E-bostiwch ffurflenni cais wedi'u llenwi a gwybodaeth ategol at Mrs R F Acton (Pennaeth) - mailbox@stmarys-wxm-pri.wrexham.sch.uk

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhywedd, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Noder bod pob swydd mewn ysgol yn destun gwiriad manwl y DBS

(y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd).

Dyddiad cau: Dydd Gwener 14 Mehefin 2024

Llunio Rhestr Fer: Dydd Llun, 17 Mehefin 2024

Cyfweliadau: Yr wythnos yn dechrau - 17 Mehefin 2024

Cyfweliadau ac arsylwadau: (Sylwer: fel rhan o'r broses gyfweld, bydd sesiwn arsylwi fer o weithgaredd mewn sefyllfa ystafell ddosbarth wedi'i ddarparu gan athro/athrawes y dosbarth, o flaen llaw).