MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Mehefin , 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

CYMHORTHYDD ADDYSGU LEFEL 1 (Cymorth Unigol)

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

CYFNOD SYLFAEN

CYMHORTHYDD ADDYSGU LEFEL 1 (Cymorth Unigol)

I WEITHIO AR SAIL UNIGOL 1:1 YN CEFNOGI DISGYBL AG ANGHENION MEDDYGOL/ ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

Graddfa L03

26.25 AWR YR WYTHNOS (9am - 3.15pm gyda hanner awr i ginio)

2.5 AWR YR WYTHNOS o ddyletswydd amser cinio.

YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG HEB UNRHYW WYLIAU YN YSTOD Y TYMOR

CONTRACT CYFNOD PENODOL dros dro

I gychwyn ym mis Medi 2024

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yn awyddus i benodi Cymhorthydd Addysgu Lefel 1 brwdfrydig sydd â phrofiad addas i ymuno â'n tîm ymroddgar ac arloesol yn ein cymuned ysgol hapus, ofalgar a chynhwysol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

âœ" Hyrwyddo ethos yr ysgol o gynhwysiant ac yn dathlu natur amrywiol ein hysgol

âœ" Gweithio yn ein lleoliad Cyfnod Sylfaen cynhwysol a rhoi cymorth 1:1 i ddisgybl ag anghenion meddygol/ anghenion dysgu (darperir hyfforddiant)

âœ" Gweithio'n agos â'r athrawon dosbarth, gan ddarparu ymyraethau penodol i gynorthwyo'r disgybl i wneud cynnydd

âœ" Cefnogi'r disgybl i weithio yn amgylchedd yr ystafell ddosbarth ac mewn grŵp bach/ar sail 1:1 gan ganolbwyntio ar dargedau unigol y disgybl

âœ" Gweithio ochr yn ochr â'r athrawon dosbarth a chynorthwywyr addysgu i sefydlu perthnasoedd gwaith cadarnhaol â'r rhieni ac asiantaethau allanol perthnasol i gefnogi anghenion y disgybl

âœ" Darparu gofal personol i'r disgybl

âœ" Gallu cynnal/codi disgybl(ion) yn gorfforol, os oes angen

âœ" Sgiliau TGCh da a'r gallu I ddefnyddio cyfarpar TG yn hyderus

âœ" Mae profiad o weithio gyda disgyblion ag anghenion meddygol ac anghenion dysgu ychwanegol yn ddymunol iawn

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â'r Pennaeth ar y rhif ffôn uchod.

Mae angen cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae croeso i ymgeiswyr ymweld â'r ysgol. Ffoniwch 01978 352406 i drefnu apwyntiad.

I ymgeisio: Lawrlwythwch a llenwch ffurflen gais y Gwasanaeth Addysg Gatholig sydd ar gael ar y dudalen we, neu am becyn cais, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt, Stryt yr Arglwydd, Wrecsam, LL11 1LG neu ffoniwch: 01978 292012

E-bostiwch ffurflenni cais wedi'u llenwi a gwybodaeth ategol at Mrs R F Acton (Pennaeth) - mailbox@stmarys-wxm-pri.wrexham.sch.uk

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhywedd, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Noder bod pob swydd mewn ysgol yn destun gwiriad GDG manwl

(y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd).

Dyddiad cau: Dydd Gwener 14 Mehefin 2024

Llunio Rhestr Fer: Dydd Llun, 17 Mehefin 2024

Cyfweliadau: Yr wythnos yn dechrau - 17 Mehefin 2024

Cyfweliadau ac arsylwadau: (Sylwer: fel rhan o'r broses gyfweld, bydd sesiwn arsylwi fer o weithgaredd mewn sefyllfa ystafell ddosbarth wedi'i ddarparu gan athro/athrawes y dosbarth, o flaen llaw).