MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Addysgu Lefel 2

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Llan-y-pwll

Ffordd Parc Borras

Wrecsam

LL12 7TH

Pennaeth: Mrs Rhiannon James

headteacher@ysgolllanypwll.pri.wrexham.sch.uk

Cymhorthydd Addysgu Lefel 2

G04 £14,575 - £14,819 y flwyddyn

£12.18 - £12.38 yr awr

(27 Awr a hanner yr wythnos)

YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG. DIM GWYLIAU YN YSTOD Y TYMOR

I ddechrau Medi'r 1af 2024. Contract Blwyddyn yn y lle cyntaf.

Mae Ysgol Llan-y-pwll yn dymuno penodi Cymhorthydd Dysgu Lefel 2 i ymuno â'n tîm croesawgar ac i weithio yn un o'n dosbarthiadau plant 3 i 8. Os ydych chi eisiau gweithio mewn amgylchedd cefnogol, hapus ac arloesol; Ysgol Llan-y-pwll, ysgol cyfrwng Cymraeg diweddaraf Wrecsam yw'r lle i chi!

Swydd Cymhorthydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn frwdfrydig, egnïol, hwyliog, cefnogol, yn fodel rôl dda ac yn rhugl yn y Gymraeg. Byddwch yn gweithio dan gyfarwyddyd uniongyrchol yr athro/athrawes ddosbarth ac yn cefnogi mynediad y disgyblion i addysg, gan gynnwys :-

Cynorthwyo gyda gosod yr amgylchedd dosbarth

Cynorthwyo grwpiau o ddisgyblion mewn gwaith grŵp

Cefnogi dysgwyr yn yr ardaloedd ac wrth iddynt gwblhau heriau

Cefnogi unigolion lle bo angen

Rhannu gwybodaeth am gynnydd y disgyblion gyda'r athro dosbarth

Dilyn cyfarwyddyd gan yr athro ddosbarth a chadw at drefniadau'r ysgol e.e. rheoli ymddygiad

Mae pecynnau cais ar gael i'w lawr lwytho o www.wrecsam.gov.uk/swyddi, neu drwy gysylltu â'r Ganolfan Gwasanaethau Adnoddau Dynol drwy e-bost: hrservicecentre@wrexham.gov.uk neu ffonio: 01978 292070.

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd cysylltwch â'r Pennaeth ar headteacher@ysgolllanypwll.pri.wrexham.sch.uk neu 01978 594101

ANFONWCH Y FFURFLENNI CAIS YN ÔL WEDI EU LLENWI YN UNIONGYRCHOL AT BENNAETH YR YSGOL

Mae'r swydd hon yn amodol ar gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg.

Bydd angen gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer pob swydd mewn Ysgol.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg ar gyfer y swydd hon yn hanfodol.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Dyddiad cau : Dydd Mercher, Mehefin 19, 2024.