MANYLION
  • Lleoliad: Monmouth, Monmouthshire, NP25 3YT
  • Testun: Saesneg
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: 01 September, 2024
  • Dyddiad Gorffen: 31 August, 2025
  • Math o gyflog: Misol
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 17 Mehefin , 2024 12:00 y.p

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Saesneg

Ysgol Gyfun Trefynwy
Athro/Athrawes Saesneg
Rhan amser (0.5), contract dros dro 1 flwyddyn
Yn dechrau 1af Medi 2024

Rydym yn falch iawn o’n hysgol gynhwysol ac uchelgeisiol, ac mae gennym ddisgwyliadau uchel tu hwnt o bob un o’n myfyrwyr. Rydym yn ymfalchïo yn eu galluogi i dyfu a ffynnu. Er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen i’n myfyrwyr wneud dau beth syml – gweithio’n galed a bod yn garedig. Mae ein myfyrwyr a staff yn ffynnu mewn cymuned lle mae cysondeb ac arferion yn mynd law yn llaw â ni yn adnabod pob myfyriwr yn dda a’u cefnogi i gyflawni eu potensial.

Mae gennym fantais adeilad ysgol ysblennydd sydd wedi ennill gwobrau, a gafodd ei gwblhau’n ddiweddar dan raglen Ysgolion 21ain Ganrif. Mae’n gyfleuster modern gwych sydd ag addysg yn greiddiol iddo. Yng nghanol Trefynwy, rydym yn gwasanaethu ein cymuned leol yn ogystal ag ardaloedd eraill cyfagos yng Nghymru a hefyd yn Lloegr. Mae gennym tua 1,700 o fyfyrwyr a 200 o staff, ac mae mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael ym mhob grŵp blwyddyn.

Rydym yn hollol benderfynol i ddarparu safon eithriadol o addysg ar gyfer pob plentyn sy’n dod i’n hysgol, fel eu bod yn cael y cyfle i arwain bywydau hapus a llwyddiannus. Seiliwyd ein hymagwedd at y Cwricwlwm i Gymru ar bwysigrwydd pynciau ac ar egwyddor gwybodaeth rymus. Mae ein gwaith ar hyn yn bwnc astudiaeth achos ddiweddar gan Estyn i rannu ein hymarfer yn fwy eang. Seiliwyd ein haddysgeg ar dystiolaeth ymchwil dysgu a sut i uchafu cynnydd myfyrwyr.

Rydym yn hollol gynhwysfawr ac yn darparu ar gyfer ystod eang o anghenion dysgu. Ar hyn o bryd mae 14% o boblogaeth yr ysgol ar y Gofrestr Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae gennym hefyd Ganolfan Adnoddau Arbenigol, sy’n destun astudiaeth achos ddiweddar gan Estyn am ei darpariaeth eithriadol o gryf. Daw myfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol a’r cyfartalog treigl ar gyfer prydau ysgol am ddim yw 13.8%.

Croesawn geisiadau gan ymgeiswyr y mae eu nodweddion a gwerthoedd personol yn adlewyrchu’r rhai yn y fanyleb person, ac y mae eu profiadau hefyd yn eu rhoi mewn sefyllfa gref i gyflawni’r disgrifiad swydd. Cynigir rhaglen gynefino lawn a dysgu proffesiynol ystyrlon i’r holl staff.

Byddwch yn ein cael yn grŵp o gydweithwyr cefnogol a chyfeillgar, sy’n cydweithio i ddarparu safon ragorol o addysg ar gyfer yr holl fyfyrwyr yn ein gofal. Rydym yn ymfalchïo yn yr hyn a wnawn, ac yn parhau i fod yn uchelgeisiol tu hwnt ar gyfer yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda’n gilydd yn y dyfodol.

JOB REQUIREMENTS
Cysylltwch â: Mrs Laura Claypole mon.recruitment@monmouth.schoolsedu.org.uk i gael unrhyw wybodaeth bellach.

Dyddiad Cau: Dydd Llun 17eg Mehefin am 12.00pm

Dyddiad Cyfweliadau: Dydd Gwener 21ain Mehefin

Gellir lawrlwytho ffurflenni cais drwy www.eteach.com – nid ydym yn derbyn CVs.
Dylid dychwelyd ffurflenni cais a lenwir ar barpur at: Mrs Laura Claypole, Ysgol Gyfun Trefymwy, Hen Heol Dixton, Trefynwy NP25 3YT.
Gellir afon ceisiasau drwy e-bost at: mon.recruitment@monmouth.schoolsedu.org.uk

Mae penodiad i'r swydd hon wedi ei eithrio o'r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr ac mae'n amodol ar Wiriad Datgeliad estynedig. Rhaid i ymgeiswyr fod yn gwybod am a chydymffurfio gyda pholisïau a gweithdrefnau yn gysylltiedig ag amddiffyn a diogelu plant, iechyd, diogelwch a sicrwydd, cyfrinachedd a diogelu data, gan hysbysu'r person priodol am bob mater o gonsyrn. .

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg, a chânt eu trin yn gyfartal.