MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 3 Pwynt 3 i Bwynt 4 £22,737 i £23,114 y flwyddyn ar gyfartaledd £11.78 i £11.98 yr awr
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu (Cynradd) Lefel 1 (Radnor Valley)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 3 Pwynt 3 i Bwynt 4 £22,737 i £23,114 y flwyddyn ar gyfartaledd £11.78 i £11.98 yr awr

Cynorthwyydd Addysgu (Cynradd) Lefel 1 (Radnor Valley)
Swydd-ddisgrifiad
Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Sir Powys dâl atodol Cyflog Byw Gwirioneddol yn ôl disgresiwn i weithwyr sy'n ennill llai na £12.00 yr awr.

Rydym am benodi Cynorthwyydd Addysgu brwdfrydig uchel ei gymhelliant, sy'n angerddol dros gefnogi dysgu ac adeiladu cydberthnasau cadarnhaol gyda phlant ag amrywiaeth o anghenion, ac sydd â'r wybodaeth, sgiliau a'r gallu i wneud hynny.

Byddwch chi'n gweithio o dan gyfarwyddyd ein staff addysgu i weithredu a goruchwylio gweithgareddau dysgu a gytunwyd gydag unigolion a grwpiau bach o ddisgyblion yn yr ystafell ddosbarth a thu allan iddi. Gallai hyn gynnwys cynorthwyo wrth gynllunio, paratoi a chyflenwi'r gweithgareddau dysgu, yn ogystal â monitro disgyblion, asesu, cofnodi ac adrodd yn ôl ar gyflawniad, cynnydd a datblygiad, o dan gyfarwyddyd yr athro dosbarth.

Bydd angen i'r ymgeiswyr llwyddiannus allu gweithio ar y cyd ac yn hyblyg ac adeiladu cydberthnasau da gyda staff a rhieni allweddol, gan arddangos ymagwedd o barch a gofal tuag at bawb yn yr ysgol.

Mae croeso i chi gysylltu â'r ysgol i drefnu ymweliad neu fanylion pellach os yw'n ofynnol.

[email protected] neu 01544 350 203.