MANYLION
  • Lleoliad: Conwy, Conwy, LL32 8ED
  • Testun: Cynorthwy-ydd Addysgu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu (Cyflenwi ar gyfer cyfnod mamolaeth)

Ysgol Aberconwy
Cynorthwyydd Addysgu

Ystod Cyflog: G05 : £22,735 - £25,623

Cyflenwi ar gyfer cyfnod mamolaeth: 37 awr yr wythnos, tymor ysgol a 5 niwrnod.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener Mehefin 21ain

Dyddiad Cychwyn: Medi 2024.

Yn Aberconwy rydym yn dechrau datblygu darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer disgyblion oed uwchradd ag awtistiaeth ac anawsterau niwroddatblygiadol cysylltiedig. Fe wnaethom agor dau ddosbarth ag adnoddau o 8 disgybl ym mis Medi 2020, ac maent bellach wedi ehangu i gynnwys dau ddosbarth pellach o fis Medi 2022. Mae’r ddarpariaeth arbenigol hon ar gyfer dysgwyr ag awtistiaeth nad oes ganddynt anabledd dysgu, ond sy'n cael anhawster sylweddol i gael mynediad i'r cwricwlwm prif ffrwd yn ei gyfanrwydd. Mae Awdurdod Lleol Conwy yn gobeithio mai hwn fydd y cam cyntaf wrth ddatblygu darpariaeth arbenigol o ansawdd uchel ar draws pob cam allweddol o addysg, gyda chylch gwaith clir i’w gynnwys mewn addysg brif ffrwd lle bynnag y bo modd ac yn galluogi disgyblion i gael mynediad at gwricwlwm llawn ac amrywiol. Bydd y ddarpariaeth yn helpu i gynorthwyo dysgwyr i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder ar gyfer trosglwyddo y tu allan i’r ysgol ac ymlaen i gyfleoedd addysg bellach yn unol â’u dyheadau a’u diddordebau.

Rydym felly yn ceisio penodi Cynorthwyydd Addysgu brwdfrydig a llawn cymhelliant, ar am gyfnod absenoldeb mamolaeth, i roi cefnogaeth i ddysgwyr a nodwyd ag awtistiaeth ac anawsterau niwroddatblygiadol cysylltiedig o fewn cyd-destun ein hysgol brif lif. Byddant yn gweithio o dan arweiniad yr athro Canolfan Adnoddau i ddarparu cefnogaeth i fyfyrwyr yn y dosbarth, neu mewn grwpiau bach, gan ganolbwyntio'n benodol ar sgiliau llythrennedd a rhifedd, cyfathrebu cymdeithasol ac anawsterau ymddygiad. Byddant yn ymdrwytho’n llwyr ym mywyd y ddarpariaeth adnoddau a gallant hefyd ddarparu cefnogaeth weinyddol, yn ogystal â chefnogi myfyrwyr y tu allan i'r ystafell ddosbarth.

Yn gyfnewid rydym yn cynnig:

Ymrwymiad cryf i ddatblygiad proffesiynol;

Ysgol â dyheadau uchel a chyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth;

Cyfle i helpu i lywio addysgu a dysgu a'n cwricwlwm amgen;

Tîm ymroddedig a chefnogol o staff proffesiynol a llywodraethwyr;

Cysylltiadau cryf ag ysgolion lleol eraill ar gyfer gweithio mewn partneriaeth a chefnogaeth;

Ysbryd cymunedol cryf;

Lle bywiog a diddorol i weithio ynddo.


Mae’n gyfnod cyffrous i ymuno ag Ysgol Aberconwy, ysgol gyfun gymysg sy’n cynnwys mwy na 900 o ddisgyblion 11 i 18 oed. Mae campws newydd, eang yr ysgol wedi’i leoli ar lannau prydferth Afon Conwy, yn nhref ganoloesol Conwy, sydd ar arfordir Gogledd Cymru ac yn agos iawn i Barc Cenedlaethol Eryri. Fel ysgol MCP mae safon ein hadnoddau a’n gwaith cynnal a chadw yn eithriadol o dda ac rydym wedi datblygu enw da iawn yn lleol am ansawdd ein gofal bugeiliol yn ogystal â'n llwyddiant academaidd. Bydd niferoedd yr ysgol wedi codi 30% dros y pum mlynedd diwethaf ym mis Medi, ac rydym wedi datblygu canolfannau adnoddau arbenigol i gefnogi plant â dyslecsia, awtistiaeth ac anghenion dysgu eraill.
JOB REQUIREMENTS
Lawrlwythwch y Pecyn Gwybodaeth i Ymgeisydd i gael rhagor o wybodaeth am y rôl hon.

https://www.aberconwy.conwy.sch.uk/cy/job-opportunities/