MANYLION.
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £26,403 - £27,694 Pro Rata | Grade 4
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Ionawr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwy-Ydd Dysgu - Ysgol Gymraeg Cwmbrân

Torfaen Local Authority

Cyflog: £26,403 - £27,694 Pro Rata | Grade 4

I ddechrau cyn gynted â phosibl

Dyma hysbyseb ar gyfer swydd Cynorthwyydd Addysgu Cyfrwng Cymraeg Gradd 4 yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân.

Gwahoddir ceisiadau gan unigolion brwdfrydig a chydwybodol ar gyfer swydd Cynorthwy-ydd Addysgu yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl yn hanfodol i roi sail ieithyddol gadarn i'r plant.

Yn gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm arwain yr ysgol bydd cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus:
  • Weithio gyda thîm o staff gweithgar ac ymroddgar.
  • Cynorthwyo yn nhrefniadaeth gyffredinol yr ystafell ddosbarth a all gynnwys: paratoi'r ystafell ddosbarth, derbyn disgyblion, trefnu a pharatoi defnyddiau, gosod a chlirio offer .
  • Cynnal a chadw adnoddau ac offer a ddefnyddir mewn gweithgareddau.
  • Rhoi cymorth i unigolion a grwpiau o ddisgyblion i sicrhau mynediad i ddysgu.
  • Cynorthwyo'r athro wrth werthuso cynnydd disgyblion a chadw cofnodion yn unol â pholisïau ag ymarferion yr ysgol.
  • Cynorthwyo a goruchwylio disgyblion yn yr iard chwarae a chynnig cefnogaeth ar gyfer gweithgareddau chwarae y tu allan i'r ystafell ddosbarth yn ôl yr angen
  • Gweini cymorth cyntaf sylfaenol yn ôl yr angen

Byddai un o'r cymwysterau isod yn fantais, ond croesawir ceisiadau gan ymgeiswyr heb gymwysterau ond byddai'n fodlon derbyn hyfforddiant tra yn y swydd.

NVQ - Gofal Plant ac Addysg

Tystysgrif CACHE - Gofal Plant ac Addysg

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.

Oriau: 32.5 awr yr wythnos - 38 wythnos y flwyddyn

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12fed o Ionawr 2026

Ysgol Gymraeg Cwmbrân,

Henllys Way, St Dials,

Cwmbrân, Torfaen,

NP44 4HB

Rhif Ffôn: (01633) 483383

head.ysgolgymraegcwmbran@torfaen.gov.uk

www.ysgolgymraegcwmbran.co.uk

Lleolir yr ysgol yng nghanol Cwmbrân sydd tua 25 munud o Gaerdydd.

Am fanylion pellach a sgwrs anffurfiol cysylltwch â'r Pennaeth, Catrin Evans ar y rhif uchod.

Contract tan 31 Awst 2026 yn y lle cyntaf.