MANYLION
  • Lleoliad: Within Ceredigion,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: 33,024 - 34,834 *
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

HLTA Cefnogi Tiwtora

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 33,024 - 34,834 *

Ynglŷn â'r rôl
Rydym yn edrych i recriwtio HLTA brwdfrydig i ymuno a'r Gwasanaeth Tiwtora Dros Dro o fewn Gwasanaethau Ysgolion ar gytundeb i gyflenwi dros dro oherwydd cyfnod mamolaeth. Mae rôl tiwtora yn bwysig er mwyn cefnogi disgyblion trwy darparu addysg o safon yn ystod cyfnodau na allant gael mynediad i ddarpariaeth ysgol brif ffrwd.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd:
  • brwdfrydig, egnïol a hyblyg sydd yn gallu ennyn diddordeb plant ar sail un i un mewn gwersi sy'n ysgogol ac yn ymgysylltu
  • sicrhau safon uchel o gefnogaeth wrth addysgu a dysgu disgybl sy'n derbyn tiwtora
  • cael effaith gadarnhaol ar gynnydd disgyblion a bod yn effeithiol wrth godi cyrhaeddiad
  • defnyddio strategaethau rheoli ymddygiad cadarnhaol ac effeithiol
  • yn gallu cydlynu a threfnu rhaglen waith a chefnogaeth briodol ar gyfer unigolion
  • yn gallu dangos hyblygrwydd a gallu addas i wahanol anghenion a gwerthoedd y gwasanaeth dysgu dros dro
  • ymrwymo'n gryf i'w datblygiad proffesiynol eu hunain

Rydym am recriwtio unigolyn sydd:
  • yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol arbennig a sgiliau cyfathrebu da
  • sgiliau trafod rhagorol
  • sgiliau rheoli ymddygiad rhagorol
  • agwedd gadarnhaol, gynhwysol tuag at amrywiaeth
  • yn gallu cysylltu'n dda â disgyblion a phobl ifanc sy'n agored i niwed/heriol
  • yn gallu gweithio'n annibynnol neu fel rhan o dîm

yn hyblyg yn ei dull gweithredu ac yn gallu datrys problemau
  • yn arloesol a chreadigol yn ei dull o gefnogi pobl ifanc sy'n agored i niwed ac yn heriol
  • yn ddibynadwy ac yn parchu cyfrinachedd

Yn ogystal â'r uchod, rydym yn gofyn am unigolyn sydd â lefel o ruglder yn y Gymraeg.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i'w gweld yma. Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi'ch datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â'ch gyrfa gyda ni.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch â: Catrin Petche, Arweinydd Tîm Gwasanaeth Cynhwysiant Addysg ar: Catrin.Petche@ceredigion.gov.uk

Cynhelir cyfweliadau: i'w gadarnhau

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch.Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant