MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £24,111 - £24,717
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Technegydd Ystadau CC/2597

Coleg Cambria

Cyflog: £24,111 - £24,717

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Technegydd Ystadau

Lleoliad: Llysfasi

Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser

Cyflog: £24,111 - £24,717

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Dechnegydd Ystadau i weithio ar ein safle Llysfasi.

Yn atebol i'r Swyddog Ystadau, byddwch yn gyfrifol am gloi a datgloi safleoedd y Coleg wrth ddiogelu'r allweddi a chodau perthnasol. Gan oruchwylio, ymateb i ddigwyddiadau a'u rheoli, byddwch yn gosod systemau larwm ac yn mynd i safleoedd pan fydd larwm yn canu gan dywys a goruchwylio ymwelwyr a chontractwyr ar safleoedd y Coleg.

Byddwch yn gwneud gwaith sy'n ofynnol er mwyn cynnal a chadw'r gwasanaethau ystadau a'r holl wasanaethau perthnasol gan gynnwys dyletswyddau cynnal a chadw tiroedd amrywiol yn ôl y gofyn. Byddwch yn ymgymryd â mân waith atgyweirio adeiladau a chynnal a chadw adeiladau ynghyd â gwaith cynnal a chadw ataliol ac wedi'i gynllunio, gan gydymffurfio â gweithdrefnau'r coleg bob amser. Byddwch yn cefnogi staff gwasanaethau glanhau'r coleg a staff y tir ac yn trefnu gosodiadau ystafelloedd gyda dodrefn a chyfarpar i sicrhau bod ystafelloedd yn addas i'r diben.

Gofynion Hanfodol
  • Mae profiad o swydd debyg yn ddelfrydol ond nid yn hanfodol.
  • Rhaid i ymgeiswyr allu cyflawni gwaith cynnal a chadw sylfaenol a gallu cario dodrefn, deunyddiau a chyfarpar.
  • Mae angen elfen o waith sifft ar y swydd hon felly mae hyblygrwydd o ran oriau gweithio yn hanfodol.
  • Gyda sgiliau cyfathrebu ardderchog i'ch galluogi i greu perthnasau gweithio effeithiol, byddwch yn gallu dadansoddi problemau a dewis datrysiadau ymarferol a gallu dilyn cyfarwyddiadau
  • Mae trwydded yrru ddilys a chludiant eich hun yn hanfodol.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig