MANYLION
  • Lleoliad: Gwynedd,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £21,611 - £23,532 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Swyddog Cynhwysiad x3

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £21,611 - £23,532 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

Swyddog Cynhwysiad Hybiau Gwynedd

(Swydd dros dro am flwyddyn yn y lle cyntaf )

Gwahoddir ceisiadau gan unigolion ymroddedig a brwdfrydig sy'n barod i fod yn rhan o'r Gwasanaeth Cynhwysiad Adran Addysg ac i weithio yn yr Hybiau Cynhwysiad sydd yn darparu addysg gynhwysol ar gyfer nifer fechan o ddisgyblion Bl9-11 o fewn y Sir

Croesewir ymholiadau/ceisiadau gan ymgeiswyr posibl sydd a diddordeb gwirioneddol mewn cynhwysiad a sicrhau y cyfle gorau posibl i bob unigolyn ifanc lwyddo.

Oriau gwaith: 35 awr yr wythnos, 40 wythnos y flwyddyn.

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Ellen Rowlands ar 01286 679007

Rhagwelir cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau

Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru

DYDDIAD CAU: 14/06/2024

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r
cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
Y gallu i weithio a chymysgu yn hawdd â phobl. Gallu i ddelio a phobol yn hyderus, pwyllog a chwrtais.

Y gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dîm.

Agwedd hyblyg gyda'r gallu i weithio ar ei phen/ben ei hun

Person taclus a threfnus sy'n gallu blaenoriaethu gwaith fel bo'r angen ac yn dangos blaengaredd.

Gallu cyflwyno gwaith cywir a thaclus yn rheolaidd.

Y gallu i gyflwyno syniadau a strategaethau i gyd-weithiwyr yn hyderus.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
Sgiliau rhif/llythrennedd ardderchog - cyfwerth ag NVQ Lefel 2 mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg.

Cyfarfod â safonau Cymhorthydd Addysgu Lefel Uwch neu gymhwyster neu brofiad cyfwerth.

Hyfforddiant mewn strategaethau perthnasol.
Dymunol
Hyfforddiant cymorth cyntaf fel y bo'n briodol.
Profiad perthnasolHanfodol
Profiad o weithio gyda grwpiau bregus o blant a phobl ifanc

Profiad o weithio gyda disgyblion gydag anghenion ychwanegol.

Profiad o weithio mewn amgylchedd dysgu gyda phlant o'r oedran priodol.

Profiad o weithio gyda disgyblion ag anawsterau emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol.
Dymunol
-
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
Gwybodaeth weithio lawn o bolisïau/còd ymarfer/deddfwriaeth berthnasol.

Gwybodaeth weithio o'r Cwricwlwm Cenedlaethol a rhaglenni dysgu perthnasol eraill.

Deall egwyddorion datblygiad plentyn a'r broses ddysgu ac, yn arbennig, rwystrau i ddysgu.

Y gallu i gynllunio gweithredu effeithlon ar gyfer disgyblion sydd mewn perygl o dangyflawni.

Deall ystod y gwasanaethau/darparwyr cynhaliaeth.

Y gallu i hunan-werthuso anghenion dysgu a cheisio cyfleoedd dysgu.

Y gallu i berthnasu'n dda â phlant ac oedolion.

Gweithio'n adeiladol ac yn hyblyg fel rhan o dîm, gan ddeall swyddogaethau a chyfrifoldebau dosbarth a'ch sefyllfa chi eich hun o fewn y rheiny.

Yn gallu defnyddio TGCh yn effeithlon i gefnogi dysgu.

Deall fframweithiau statudol perthynol i addysgu.

Ymwybodol o Strategaeth ADYaCh Gwynedd ac Ynys Môn

Dealltwriaeth o'r ddeddfwriaeth ADYaCh a'r Cod Ymarfer

Dealltwriaeth o Ddulliau Canolbwyntio ar yr Unigolyn

Dealltwriaeth o Gynlluniau Datblygu Unigol
Dymunol
-
Anghenion ieithyddolGwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)

Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

• Darparu cefnogaeth addysgol i ddisgyblion â phroblemau ymddygiadol / emosiynol.

• Darparu cefnogaeth addysg/cyswllt a phlant sydd ddim yn mynychu y darpariaeth prif lif am pa bynnag reswm.

• Cymryd cyfrifoldeb am weithgareddau dysgu.

• Cynllunio, paratoi a chyflwyno cwricwlwm ehangach ynghyd â chwricwlwm therapiwtig i unigolion neu grwpiau.

• Monitro, asesu, cofnodi ac adrodd ar lwyddiannau yr elfennau yma.

• Hyrwyddo cynnydd a lles cyffredinol disgyblion yn unol ag athroniaeth y ddarpariaeth.

• Gweithredu'r Còd Ymarfer Anghenion Arbennig o ran cefnogi disgyblion.

• Cefnogi Addysgu' disgyblion sydd ddim yn ddysgwyr arferol prif lif.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Adnoddau dysgu cyffredinol.

• Offer TGCh i gefnogi dysgu'r disgyblion
Prif ddyletswyddau
Cefnogaeth i ddisgyblion

• Cefnogi'r Addysgu grwpiau o ddisgyblion a neilltuir gan yr Adran Addysg

• Cynllunio nodau addysgu a dysgu heriol ac addasu cynlluniau gwersi/gwaith fel y bo'n briodol.

• Asesu anghenion disgyblion a defnyddio gwybodaeth fanwl a sgiliau arbenigol i gefnogi dysgu'r disgyblion.

• Monitro a gwerthuso ymateb disgyblion i weithgareddau dysgu drwy ystod o strategaethau asesu a monitro.

• Darparu adborth gwrthrychol a chywir ac, yn ôl y gofyn, adroddiadau ar gyflawniad, cynnydd a materion eraill disgyblion, gan sicrhau fod tystiolaeth briodol ar gael.

• Gweinyddu ac asesu/marcio profion.

• Gosod disgwyliadau uchel.

• Datblygu a gweithredu Cynlluniau Addysg Unigol (CAU) Chynlluniau Ymddygiad Unigol (CYU) a Chynlluniau Datblygu Unigol (CDU).

• Hybu cynhwysiad pob disgybl.

• Cefnogi'r disgyblion yn gyson wrth adnabod eu hanghenion unigol ac ymateb iddynt.

• Annog y disgyblion i ryngweithio a gweithio'n gydweithredol, lle'n briodol, ag eraill ac ymrwymo pob disgybl mewn gweithgareddau.

• Hybu annibyniaeth a defnyddio strategaethau i adnabod a gwobrwyo cyflawniad a hunanddibyniaeth.

• Cofnodi yn drylwyr, gynnydd a chyflawniad a darparu tystiolaeth o ystod a lefel cynnydd a chyrhaeddiad.

• Asesu, cofnodi ac adrodd ar gynnydd disgyblion.

• Darparu adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd a chyflawniad.

• Adrodd ar gynnydd disgyblion i'r ysgolion ac unrhyw asiantaeth berthnasol.

• Cysylltu a chyfathrebu'n effeithiol a phawb perthnasol sydd â wnelo â'r disgyblion fel mae'n briodol.

• Hwyluso cyfathrebu rhwng ysgol, rhieni ac asiantaethau eraill

• Sicrhau bod yr holl faterion Iechyd a Diogelwch sy'n rhan o'ch cyfrifoldeb yn cael eu dwyn i sylw'r Rheolwr Llinell.

• Bod yn rhan weithredol o lunio asesiadau risg ar ddisgyblion a lleoliadau dysgu.

• Trefnu a rheoli amgylchedd dysgu ac adnoddau priodol.

• Gweithredu polisi Cyfleoedd Cyfartal yr AALl.

• Gweithio o fewn polisi disgyblaeth sefydledig i ragweld a rheoli ymddygiad yn adeiladol, gan hybu hunanreolaeth ac annibyniaeth.

• Cefnogi rhan rhieni yn dysgu'r disgyblion a chyfrannu tuag at gyfarfodydd/arwain cyfarfodydd gyda rhieni i ddarparu adborth adeiladol ar gynnydd/cyflawniad disgyblion, ayyb.

• Cynhyrchu cynlluniau gwersi, taflenni gwaith, cynlluniau, ayyb.

• Bod yn ymwybodol a chefnogi gwahaniaeth, a sicrhau bod gan bob disgybl fynediad cyfartal i gyfleoedd dysgu a datblygu.

• Os yw'n briodol, mynychu cyfarfodydd bugeiliol

Cefnogaeth i'r Cwricwlwm

• O fewn cyfundrefn oruchwylio gytunedig, cyflwyno gweithgareddau dysgu i'r disgyblion, addasu gweithgareddau yn unol ag ymatebion/anghenion y disgyblion.

• Cyflwyno strategaethau dysgu lleol a chenedlaethol, e.e. llythrennedd, rhifedd a gwneud defnydd effeithiol o gyfleoedd a ddarperir gan weithgareddau dysgu eraill i gefnogi datblygiad sgiliau disgyblion.

• Defnyddio TGCh yn effeithiol i gefnogi gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth disgyblion yn ei ddefnydd.

• Dethol a pharatoi adnoddau sy'n angenrheidiol ar gyfer arwain gweithgareddau dysgu, gan gymryd cyfrif o ddiddordebau, iaith a chefndir diwylliannol y disgyblion.

• Cynghori ar leoli a defnyddio cymorth/adnoddau/offer arbenigol yn briodol.

• I feddu ar drwydded yrru ddilys a defnydd o gerbyd sydd yn cydymffurfio â Pholisi Teithio Cyngor Gwynedd.

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
• -

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi