MANYLION
  • Lleoliad: Abergavenny, Monmouthshire, NP7 6LZ
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 14 Mehefin , 2024 12:00 y.p

This job application date has now expired.

CYNORTHWYYDD CYMORTH GWEINYDDOL YR YSGOL - Ysgol Gynradd yr Eglwys yn Nghymru Landeilo Bertholau

Cyngor Sir Fynwy
Mae Ysgol Gynradd Llandeilo Bertholau yn awyddus i gyflogi Cynorthwy-ydd Cymorth brwdfrydig, hyblyg ac ymroddedig i ymuno â'n tîm cyfeillgar ac ymroddedig.

Diben y Swydd hon:-


Disgwyliadau a Chanlyniadau’r Rôl:-
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu dangos agwedd effeithiol, cyfeillgar a threfnus at ystod eang o dasgau a dyletswyddau gweinyddol. Byddai gwybodaeth a phrofiad o ddefnyddio systemau rheoli ysgolion megis SIMS a Parent Pay o fudd. Bydd angen i chi ddangos y gallu i weithio mewn modd cefnogol ac effeithiol mewn tîm, yn ogystal ag mewn modd arloesol ac ar liwt eich hun. Byddai profiad o weithio ym maes gweinyddiaeth ysgol o fantais, er y gellir darparu hyfforddiant.

Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys:-

Sefydliad
• Ymgymryd â dyletswyddau derbynfa gan gynnwys ateb ymholiadau arferol dros y ffôn, wyneb yn wyneb a thros e-bost ac arwyddo ymwelwyr i mewn, ac arwyddo disgyblion i mewn ac allan.
• Cynorthwyo gyda dyletswyddau cymorth cyntaf/lles disgyblion, gofalu am ddisgyblion sâl, cysylltu â rhieni a staff.
• Cynorthwyo gyda threfniadau ar gyfer ymweliadau â’r ysgol gan weithwyr proffesiynol gan gynnwys: gweithwyr iechyd a gweithwyr cymdeithasol, ffotograffydd ysgol a chontractwyr adeiladau.

Gweinyddiaeth
• Darparu cefnogaeth weinyddol arferol a chyffredinol i'r holl staff trwy ddidoli post a chyflenwadau, teipio llythyrau, llungopïo, ffeilio, e-bostio, a chwblhau ffurflenni arferol.
• Cynnal system rheoli data ysgolion (SIMS) er mwyn sicrhau bod yr holl ddata yn gyfredol: mae hyn yn cynnwys mewnbynnu data newydd ar ddechrau’r flwyddyn academaidd, dilyn gweithdrefnau ymateb diwrnod cyntaf ar gyfer cofrestru ac argraffu adroddiadau.
• Diweddaru a monitro'r system talu heb arian (ParentPay) er mwyn sicrhau bod yr holl daliadau wedi'u gwneud am wasanaethau a theithiau, gan gysylltu â Gweinyddwr yr Ysgol ynghylch mynd ar ôl dyledion.
• Bod yn gyfrifol am sicrhau bod system gyfathrebu’r ysgol (Schoop) yn cael ei diweddaru a’i defnyddio i’w llawn botensial fel bod pob rhiant yn cael gwybod am weithgareddau.
• Rheoli dyddiadur yr ysgol ochor yn ochor â'r Pennaeth.
• Cydymffurfio â gofynion a gwiriadau Rheoli Archwilio.


Cyfrifoldebau:
• Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau sy’n ymwneud â chynhwysiant, amddiffyn plant, iechyd, diogelwch, cyfrinachedd a diogelu data, a chydymffurfio â hwy, gan roi gwybod i’r person priodol am bob pryder.
• Bod yn ymwybodol o wahaniaethau a’u cefnogi a sicrhau cyfle cyfartal i bawb.
• Cyfrannu at ethos/gwaith/nodau cyffredinol yr ysgol.
• Gwerthfawrogi a chefnogi rôl gweithwyr proffesiynol eraill.
• Mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd perthnasol yn ôl yr angen.
• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill a datblygu perfformiad yn ôl yr angen.
• Cydymffurfio â chanllawiau a pholisi'r Awdurdod Lleol.
• Mae'r holl weithwyr yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn gweithredu bob amser mewn ffordd sy'n gydnaws â Pholisi Cyfle Cyfartal Sir Fynwy yn eu meysydd o gyfrifoldeb ac fel rhan o’u hymddygiad cyffredinol.