MANYLION
  • Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £33,850 - £39,375 / blwyddyn
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Swyddog Sgiliau Gwyrdd (Cymru Gyfan)

Coleg Sir Gar

Cyflog: £33,850 - £39,375 / blwyddyn

Swyddog Sgiliau Gwyrdd (Cymru Gyfan)
Application Deadline: 19 June 2024

Department: Inspiring Skills

Employment Type: Dros dro

Location: Campws Graig

Reporting To: Cyfarwyddwr y Prosiect Ysbrydoli Sgiliau

Compensation: £33,850 - £39,375 / blwyddyn

DescriptionPWRPAS:
  • Cefnogi prif nodau ac amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni'r cynllun sero net ar draws y sector addysg a hyfforddiant

  • Archwilio a sefydlu'r ddarpariaeth a'r cyfleoedd sydd ar gael ar draws y sector addysg a hyfforddiant wrth gynllunio a pharatoi i ateb y galw presennol ac yn y dyfodol am ddatblygu sgiliau gwyrdd

  • Sefydlu a chynnal partneriaethau â rhanddeiliaid allweddol ar draws y sector addysg a diwydiant i wella'r cyfleoedd ac i ddarparu atebion cydgysylltiedig, arloesol a chynaliadwy i gyflawni'r cynllun Sero Net.

  • Cynllunio, rheoli a gwerthuso canfyddiadau allweddol a gwneud argymhellion addas i ddiwallu anghenion y sector addysg a diwydiant.

  • Cyfrannu at fentrau ar draws y prosiect Ysbrydoli Sgiliau i sicrhau bod sero net wedi'i ymgorffori'n weithredol yn y darpariaethau amrywiol sydd ar gael

CYFLWYNIAD

Mae'r Coleg yn rheoli, ar ran Llywodraeth Cymru, y prosiect "Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru" mewn cydweithrediad â'r Rhwydwaith Llysgenhadon Sgiliau – rhwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith a sefydliadau dan arweiniad cyflogwyr.

Fel deiliad y contract, mae'r coleg yn dymuno penodi Cydlynydd Sgiliau Gwyrdd / Sero Net i gefnogi nod uchelgeisiol y prosiect o gefnogi cynllun Sero Net Llywodraeth Cymru

Bydd y Cydlynydd Sgiliau Gwyrdd / Sero Net yn gyfrifol am reoli pob agwedd ar y canlyniadau dynodedig, a fydd yn darparu dull cydlynol o ymdrin â Sgiliau Gwyrdd a Sero Net ar gyfer amrywiaeth o randdeiliaid. Bydd yn canolbwyntio ar adolygu'r sgiliau a gynigir ar draws rhwydwaith y colegau i weithio tuag at gyflawni allyriadau sero net a hyrwyddo arferion cynaliadwy ledled Cymru.

Mae'r rôl hon yn cynnwys datblygu a gweithredu cynlluniau strategol, goruchwylio datblygiadau yn y dyfodol, cydlynu cynlluniau ymgysylltu rhanbarthol, a sicrhau llwyddiant cyffredinol y prosiect.

Fel Cydlynydd Sgiliau Gwyrdd / Sero Net, byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth arwain a datblygu ein mentrau sy'n canolbwyntio ar roi'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i ddysgwyr, cyflogwyr a rhanddeiliaid eraill ar gyfer dyfodol cynaliadwy a digarbon net.

Mae'r gallu i ysbrydoli, cymell a dylanwadu ar eraill yn sgiliau allweddol sy'n ofynnol ar gyfer y rôl hon. Gan weithio ledled Cymru mewn partneriaethau â'r sector addysg a hyfforddiant, bydd y rôl yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn fodel rôl i eraill ei ddilyn, wrth gynnal y safonau uchaf posibl a gweithio'n gadarnhaol ac yn broffesiynol gyda gonestrwydd a thryloywder.

Bydd y swydd yn golygu teithio'n helaeth ledled Cymru, gan ofyn am hyblygrwydd mewn oriau gwaith a bydd yn arwain at weithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid.

Cyfrifoldebau Allweddol
  • Gweithredu fel cydlynydd arweiniol sgiliau gwyrdd / sero net ar draws y sector addysg a hyfforddiant er mwyn nodi ac adolygu'r ddarpariaeth o hyfforddiant a datblygiad gwyrdd a sero net ar draws y sector

  • Archwilio strategaethau tymor hwy sy'n gweithio ar draws pob coleg i gefnogi'r gwaith o ddatblygu polisi ac anghenion hyfforddiant paratoi at y dyfodol i fodloni gofynion sgiliau'r dyfodol

  • Deall problemau cymhleth ac alinio canfyddiadau ymchwil i lywio'r broses o wneud penderfyniadau a gweithredu

  • Cynllunio, rheoli a gwerthuso canfyddiadau allweddol a gwneud argymhellion addas i ddiwallu anghenion y sector addysg a diwydiant a, lle bo angen, mynd ati i nodi cyfleoedd cyllido, gan gynnwys grantiau, nawdd a phartneriaethau, er mwyn cefnogi gweithrediadau a thwf yn y dyfodol.

  • Gweithio gyda'r tîm rheoli prosiectau i ddatblygu cyfeiriad strategol y prosiect Ysbrydoli Sgiliau tuag at gyflawni'r cynllun Sgiliau Gwyrdd / Sero Net, gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd ag amcanion cyffredinol y prosiect;

  • Cefnogi Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol i weithredu a chyflawni eu nodau sero net a chynaliadwyedd;

  • Sefydlu a chynnal partneriaethau â rhanddeiliaid allweddol ar draws y sector addysg a diwydiant i wella'r cyfleoedd ac i ddarparu atebion cydgysylltiedig, arloesol a chynaliadwy i gyflawni'r cynllun Sero Net.

  • Cymryd rôl arweiniol wrth sefydlu seilwaith yng Nghymru sy'n cipio a rhannu arfer gorau ar draws Sgiliau Gwyrdd a Sero Net

  • Archwilio cyfleoedd ar gyfer rhaglenni a chyrsiau arloesol sy'n hyrwyddo'r gwaith o ddatblygu sgiliau gwyrdd, cynaliadwyedd ac ymwybyddiaeth amgylcheddol

  • Ysbrydoli'r rhwydwaith ledled Cymru i wella eu darpariaeth o addysg cynaliadwyedd.

  • Gweithio gydag asiantaethau allanol i gefnogi ymchwil ym maes Sgiliau Gwyrdd / Sero Net ledled Cymru

  • Cynrychioli'r prosiect Ysbrydoli Sgiliau mewn digwyddiadau a chyfarfodydd, codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo gwaith Sgiliau Gwyrdd a Sero Net.

  • Cymryd rôl arweiniol mewn grwpiau llywio, cyflwyno mewn digwyddiadau, ysgrifennu darnau proffesiynol a chreadigol.

  • Datblygu a rheoli'r gyllideb sy'n gysylltiedig â'r ddarpariaeth hon, gan ddyrannu adnoddau'n effeithiol i gefnogi datblygiad y rhaglen.

  • Cadw i fyny â datblygiadau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd mewn perthynas â Sgiliau Gwyrdd / Sero Net, gan sicrhau lledaeniad effeithiol o ddata, cynlluniau a gwybodaeth am y farchnad lafur i randdeiliaid allweddol.

  • Monitro datblygiadau ledled y DU ac yn rhyngwladol, polisïau sy'n dod i'r amlwg, a strategaethau ar gyfer Sero Net er mwyn llywio'r cyfeiriad strategol ar gyfer y sector addysg a hyfforddiant

  • Trefnu a hwyluso digwyddiadau rhanbarthol a chenedlaethol sy'n dod â rhanddeiliaid strategol at ei gilydd i hyrwyddo a lledaenu dealltwriaeth ledled y sector o Sgiliau Gwyrdd / Sero Net.

  • Monitro effeithiolrwydd y rhaglen, gan sicrhau cydymffurfiaeth â safonau rheoleiddio a phrosesau sicrhau ansawdd.

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
  • Profiad helaeth ym maes addysg bellach
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth gref o'r economi a'r sgiliau
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth gref o gynaliadwyedd a sgiliau gwyrdd
  • Yn gallu dadansoddi data neu ddehongli data
  • Sgiliau ysgrifenedig/sgiliau cyfathrebu
  • Sgiliau arwain, cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, gyda'r gallu i ymgysylltu ac ysbrydoli amrywiaeth o randdeiliaid.
  • Sgiliau trefnu a rheoli prosiect cryf, gyda'r gallu i flaenoriaethu a rheoli tasgau lluosog yn effeithiol.
  • Ymrwymiad i greu dyfodol mwy gwyrdd
  • Ymrwymiad i ddealltwriaeth o Addysg Bellach, Addysg Uwch, darpariaethau 14-19 a Dysgu Seiliedig ar Waith
Dymunol:
  • Gradd neu Radd Uwch
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
(Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.)

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein