MANYLION
  • Lleoliad: Tondu Primary,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £54,316 - £59,990 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 13 Mehefin , 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Dirprwy Bennaeth – Ysgol Gynradd Tondu

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £54,316 - £59,990 y flwyddyn

Dirprwy Bennaeth - Ysgol Gynradd Tondu
Disgrifiad swydd
Dyddiad Dechrau: Medi 2024

Mae Ysgol Gynradd Tondu yn chwilio am arweinydd profiadol sydd â phrofiad o fod yn CADY i gamu i rôl Dirprwy Bennaeth sydd â chyfrifoldeb CADY. Mae hon yn rôl addysgol sy'n gyfle rhagorol i bartïon â diddordeb ennill neu ddatblygu profiad Dirprwy Bennaeth ymhellach mewn ysgol gynradd a gallu datblygu swyddogaethau arweinyddiaeth strategol a rheoli. Byddai profiad blaenorol fel Dirprwy Bennaeth yn fanteisiol.

Mae Ysgol Gynradd Tondu yn gwasanaethu pentref Abercynffig a'r ardal gyfagos i'r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr. Ar hyn o bryd mae 192 disgyblion ar y gofrestr rhwng 3 ac 11 oed sy'n cael eu haddysgu ar draws wyth dosbarth. Fe'i lleolir ar ddau safle, sy'n golygu bod y dosbarthiadau Meithrin a Derbyn tua chwarter milltir i ffwrdd o weddill yr ysgol. Fodd bynnag, rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod yr holl blant, staff a theuluoedd yn teimlo'n rhan o'n Teulu Tondu. Rydym yn angerddol am hyrwyddo a chefnogi llesiant disgyblion a staff ac mae'r ethos hwn wrth wraidd popeth a wnawn.

Mae Tondu yn darparu dysgu cyffrous ac ystyrlon. Mae'r ysgol yn cael budd o amgylcheddau dysgu rhagorol yn yr awyr agored ac mae'n gweithio mewn partneriaeth â disgyblion, staff, rhieni a llywodraethwyr yn sgil y cysylltiad cryf â'r gymuned ehangach. Darparu amgylchedd lle mae'r staff a'r disgyblion yn cael eu cynorthwyo i gyflawni eu potensial llawn.

Mae Tondu yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.

A chithau'n Ddirprwy Bennaeth, arweinydd ysgol neu'n weithiwr proffesiynol addysg profiadol, bydd gennych brofiad rheoli gyda sgiliau arweinyddiaeth, sefydliadol a rhyngbersonol amlwg.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad cau: Mehefin 13, 2024
Dyddiad llunio rhestr fer: 18 Mehefin 2024
Dyddiad Cyfweld: 04 Gorffennaf 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person