MANYLION
- Lleoliad: Heronsbridge,
- Oriau: Not Specified
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £13,757 - £14,233 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cogydd - Ysgol Heronsbridge - Gwasanaethau Arlwyo
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £13,757 - £14,233 y flwyddyn
Cogydd - Ysgol Heronsbridge - Gwasanaethau ArlwyoDisgrifiad swydd
22.5 awr
Gallai'r oriau gwaith fod rhwng 9.00am a 2.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod tymor yr ysgol yn unig.
Yn ystod tymor yr ysgol
Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod fel Cogydd i reoli a chydlynu gweithgareddau o ddydd i ddydd mewn cegin newydd, gan sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd yn cael ei ddarparu i'r holl gwsmeriaid.
Byddwch yn gyfrifol am gynllunio'r fwydlen, rheoli dognau, paratoi a choginio, dyletswyddau gweinyddu a goruchwylio staff.
Byddai profiad blaenorol o baratoi bwyd a choginio i niferoedd mawr, goruchwylio, dyrannu dyletswyddau a hyfforddi yn fantais, ynghyd â gofynion Iechyd a Diogelwch, diogelwch, dyletswyddau gweinyddol, gofynion deiet arbenigol a diwylliannol, a gwybodaeth am reoliadau COSHH.
Mae Tystysgrif Hylendid Bwyd Canolradd yn hanfodol ar gyfer y swydd hon (darperir hyfforddiant). Mae NVQ 2 neu gyfwerth yn ddymunol.
Gallai'r oriau gwaith fod rhwng 9.00am a 2.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod tymor yr ysgol yn unig.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 19 Mehefin 2024
Llunio'r rhestr fer: 20 Mehefin 2024
Cyfweliadau: 08 Gorffennaf 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person