MANYLION
- Lleoliad: Schools,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: L3 £50,441 - L7 £55,776 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 17 Mehefin , 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: L3 £50,441 - L7 £55,776 y flwyddyn
YSGOL IAU HEN GOLWYNChurch Walks, Hen Golwyn, Bae Colwyn, Conwy LL29 9RU
Rhif ffôn: (01492) 516 258
Pennaeth: Mr. R Jones, rhifau o disgyblion - 205
Yn eisiau ar gyfer mis Medi 2024 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny
DIRPRWY BENNAETH
Cyflog: L3 £50,441 - L7 £55,776 y flwyddyn
Oriau: Llawn Amser
" Mae Ysgol Iau Hen Golwyn yn gymuned glos, gefnogol a gofalgar lle mae disgyblion yn teimlo'n hapus a diogel . "
Estyn Mis Ionawr 2023
Mae'r Llywodraethwyr yn dymuno penodi unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant ar gyfer swydd Dirprwy Bennaeth yn ein hysgol cyfrwng Saesneg dynodedig. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:
- gymhwyster addysgu perthnasol a chyfredol
- sgiliau ystafell ddosbarth ardderchog a phrofiad o ddangos arfer da.
- ymrwymiad i wella'r ysgol a mynd i'r afael â phrif flaenoriaethau addysgol Llywodraeth Cymru.
- sgiliau cyfathrebu rhagorol
- ymrwymiad i les pawb
- sgiliau rheoli ac arweinyddiaeth cadarn
- cefndir hybu safonau uchel
- gallu gweithio'n effeithiol gyda staff, rhieni a llywodraethwyr
- gallu helpu i gynnal a datblygu safonau uchel ac arferion da a sefydlwyd eisoes yn yr ysgol
- y gallu i ymateb yn gadarnhaol i heriau a rhannu gweledigaeth gadarnhaol yr ysgol.
- gallu ymgymryd â thasgau a chyfrifoldebau a ddyrannwyd gan y Pennaeth
Byddwn ni'n cynnig:
- plant hapus a chyfeillgar sy'n frwdfrydig dros addysg a dysgu;
- ethos cefnogol a gofalgar
- grŵp ymroddedig a gweithgar o staff cymorth ac addysgu;
- Corff Llywodraethu proffesiynol sy'n herio ac yn cefnogi;
- safle eang llawn adnoddau;
- cyfleoedd datblygu proffesiynol a gyrfa ardderchog
- cyfle cyffrous i fod yn rhan o ysgol flaengar
Mae ymweliadau â'r ysgol wedi eu trefnu ar gyfer 06/06/24 a 11/06/24 am 4:30pm. Mae croeso i ymgeiswyr sydd am wybod mwy am yr ysgol neu'r swydd fynychu. Cysylltwch â Miss J Leon (Ysgrifennydd) i drefnu hyn. (01492) 516258
Oherwydd natur y swydd, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun datgeliad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae'n ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg cyn dechrau gweithio.
Noder nad yw'r awdurdod yn rhoi ffurflenni cais bellach, nac yn derbyn CVs.
Dyddiad cau: Hanner nos, Dydd Llun , 17 eg Mehefin 2024
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio.
Os na chewch glywed o fewn 3 wythnos o'r dyddiad cau, dylai ymgeiswyr gymryd nad ydynt wedi cyrraedd y rhestr fer am gyfweliad ac felly ni fyddwch yn derbyn gwybodaeth ysgrifenedig. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad.
This form is also available in English.