MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Safle Cyn-Ysgol (Ysgol Dolafon)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £23,500 i £23,893 y flwyddyn ar gyfartaledd £ 12.18 i £12.38 yr awr

Cynorthwyydd Safle Cyn-Ysgol (Ysgol Dolafon)
Swydd-ddisgrifiad
Mae llywodraethwyr Ysgol Dôlafon am benodi ymarferydd plentyn-ganolog sydd wedi ei gymhwyso'n briodol i ymuno â'r staff yn ein lleoliad hapus. Rydym yn ymgeisio i ddarparu amgylchedd cynhwysol sy'n meithrin ac yn ymgyfoethogi ac sy'n annog cariad at ddysgu gydol oes.

Yn cynorthwyo arweinydd y safle wrth gynllunio, adolygu a chyflenwi cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen ac wrth gefnogi gofal, iechyd, diogelwch, lles, cymorth emosiynol ac ymddygiadol y disgyblion.

Yn cyfrannu at ddarparu amgylchedd cynnes a chroesawgar yn y safle lle gall y plant a'r gofalwyr deimlo bod rhywun yn eu gwerthfawrogi, a chael cymorth a chefnogaeth gadarnhaol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau.

Mae'r swydd yn cael cyfarwyddyd gan Arweinydd y Safle neu 'unigolyn cyfrifol' neu aelod arall o staff uwch, ac mae'n atebol i'r sawl hwn.

Mae'r dyddiad cau ar gyfer y rôl wedi cael ei ymestyn, dyma'r dyddiadau newydd -
Dyddiad cau: 08/07/2024
Dyddiad creu rhestr fer: 09/07/2024
Cyfweliadau: 15/07/2024